asai ein camgymeryd am y Tylwyth Teg wedi d'od allan i ddawnsio ar noson lawn lloer. Nid oedd neb wedi edifarhau dyfod erbyn hyn; yr oedd rhyw swyngyfaredd wedi ein meddiannu. Ni ddywedai neb fawr o ddim, dim ond yfed yn helaeth o ardderchowgrwydd gwaith ei ddwylaw Ef. Ond methodd y calonnau Cymreig â dal y distawrwydd yn hirtorrodd yr edmygedd a'r mwyniant allan yn un anthem o fawl—
"Dduw Mawr y rhyfeddodau maith,
Rhyfeddol yw pob rhan o'th waith."
Yr oedd y cwmni oll yn hoff o ganu, a chredaf na fu y fath ganu ar yr hen emyn erioed; bron nad oeddym yn gweled drws y nef, ac na chlywem yr anthem fel corws yr engyl gwyn—dyblem a threblem y llinellau nes yr oedd y goedwig gylchynnol fel pe wedi uno â'r mawl. Un o oriau euraidd bywyd oedd honno: dringem y llwybr bychan mewn distawrwydd perffaith yr oedd yna gysegredigrwydd yn y fangre i bob o honom byth mwy.
Yr oeddwn i yn olaf yn cyrraedd o'r ceunant, ac yr oedd y cwmni wedi mynd ychydig ymlaen. Cofiwn y byddai raid i mi ymhen ychydig ddyddiau deithio'n ol dros y diffeithdir sych i wlad ddi-goed, ddi-flodau. O yr oedd fy hiraeth yn fawr iawn. Yr oedd fy mywyd yn ystod y mis diweddaf wedi bod mor llawn o ddedwyddwch pur, fel yr oedd rhyw ofn yn llanw fy nghalon wrth feddwl am y dyfodol. Fel yr hiraethwn am gael byw bywyd pur, dilychwin! Mor hawdd fuasai gwneud hynny ynghanol cylchynion fel hyn. Rhedais i lawr y ceunant yn fy ol. Sefais yn ymyl y cwymp, nes derbyn yn helaeth o fedydd y gwynias ddwfr. Yr oeddwn yn gwneud