wedi bod yn ei weled a'i fwynhau yng ngoleu llachar yr haul, a meddyliwn mor swynol fuasai cael un gip arall arno ar nos Nadolig yng ngoleu gŵyl y lloer.
Yr oedd Dalar bron credu, os byddwn yn y Fro yn hir, yr awn yn wyllt, ac mai yn y coed y byddwn byw; ond yn rhadlonrwydd ei galon daeth gyda ni, y cwmni llawen yn dathlu gwyl Nadolig. Teithiem yn heinyf dan ganu carolau a'n haddurno ein hunain â blodau banadl a melus-y-pia; yr oedd y lloer yn gwenu'n siriol amom fel pe'n cydfwynhau. Wedi rhyw hanner awr o gerdded, daethom at y llwybr cul oedd yn arwain i lawr y ceunant at fin y dwfr. Gyferbyn â'r rhaeadr ymgodai hen graig anferth fel llu arfog i warchae'r darlun tlws. Wedi cryn lafur, dringwyd i ben y graig, a safem ar y palmant cadarn yn wynebu'r dyfroedd gwyn, llachar. Cwympent ar ddwywaith, gan wasgar lluwchion eu hewyn ar y coed a'r blodau a ymhyfrydent yn y gwlith perliog hwn. Nid oedd y lloer eto yn taflu ei goleuni yn llawn ar y rhaeadr. Er disgwyl am yr olygfa honno, gwnaethom goelcerth ar ben y graig, a thra yr oeddym ni yn prysur fwydo'r tân, daeth y lloer yn ddistaw, ddistaw, gan belydru megys drwy'r dyfroedd. Erbyn hyn yr oedd y goelcerth yn ei gogoniant, fel pe mewn ysbryd cystadlu â'r lloer a belydrai yn y modd mwyaf effeithiol ar yr ewyn gwyn. Ond cynorthwyo'u gilydd yr oeddent i wneud un darlun gogoneddus, a'r amrywiaeth lliwiau yn dallu'r llygaid wrth edrych arnynt. Yr oedd yr olygfa o ben y rhaeadr yn sicr o fod yn darawiadol hefyd yr oedd canghennau'r coed yn taflu cysgodion cywrain yng ngoleu'r fflamau, a ninnau yn ein coronati o flodau yn gwibio o gwmpas y fflamau. Hawdd iawn fu-