Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhy brysur yn ceisio torri'm gwddf, ys dywedai Dalar, i fynd fawr o gwmpas tai.

Wedi cael eu gwala o'r danteithion, cyrchai pawb tua chysgod y bedwlwyn i eistedd a mwynhau ymgom. Yma hefyd yr oedd y ceffylau ffyddlon sydd yn rhan mor bwysig o'n bywyd Patagonaidd.

Dechreuid y cwrdd yn gynnar er mwyn i bawb gael cyrraedd adref cyn y nos oherwydd pellter y cartrefi. Cwrdd chwaethus, nwyfus, yn llawn o'r hen dân Cymreig, fel pe buasid mewn cwrdd llenyddol yn rhannau gwledig Sir Gaerfyrddin neu Sir Feirionnydd: ac eto, nid oes yn ein cylchynion na'n dyledswyddau beunyddiol ddim cyfatebol i'r bywyd Cymreig yng Ngwalia Wen. Rhyfedd fel y glŷn cariad y Celt yn ei lên a'i gân ymhob rhan o'r ddaear,-pethau anwyl, pethau cysegredig y Cymro: maent yr un mor anwyl iddo wrth odreu'r Andes â phe wrth odreu'r Wyddfa. Bu Lloegr â phob gallu a dyfais yn ceisio newid serch a thueddion y Cymro, ond yn ofer ac am ddim y llafuriodd. Mae Archentina, hithau, yn ceisio mynd drwy'r un oruchwyliaeth â'r fagad fechan Gymreig a sefydlodd o fewn ei thiriogaeth; ord mae traddodiadau'r tadau yn fur rhy drwchus i unrhyw allu Lladinaidd dreiddio drwyddo.

Yr oedd y cwrdd Nadolig wrth droed yr Andes wedi fy nghodi i'r fath hwyliau fel na allwn fod yn llonydd ar ol cyrraedd adref wedi'r cwrdd. Yr oedd yno liaws of gyfeillion wedi d'od yn ol gyda ni; yr oedd yn noson lawn lloer. Ar lethr Gorsedd y Cwmwl, yrghanol y goedwig, yr oedd un o'r rhaeadrau hyfrytaf yn y Fro. Yr oeddwn