yn yswil, fel plant drwg wedi bod ar eu spri. Ond cawsai perthynasau a chyfeillion noson mor bryderus yn ein cylch, fel yr oedd y croeso yn gynnes a siriol, a phawb yn falch o'n gweld, ac yn holi a dyfalu am y cyntaf.
Hyd nes inni ein cael ein hunain rhwng muriau'r bwthyn clyd, nid oeddym ymwybyddol mor flinedig oeddym; yr oedd yr awelon iachus, a symudiadau chwim y ceffylau, wedi ein cadw yn effro, ond gynted y dacthpwyd i awyrgylch gynnes yr aelwyd, a chael y tê y canem am dano, cysgu a gorffwys oedd ein dyhead mwyaf, a chwsg i'w gofio oedd hwnnw: dywedir inni gysgu gylch y cloc yn grwn, tra'r plantos bach yn chwareu a chanu, ymwelwyr yn mynd a dod, ceffylau a gwartheg yn tristfawr gyniwair gylch y ty, a'r haul yn machlud a'r lleuad yn codi, a ninnau'n cysgu'n ogoneddus, a thelynau'r Tylwyth Teg yn suo-ganu. Ond wedi inni ddeffro, yr oeddym fel adar yn trydar, ac yn barod i adrodd ein holl anturiaethau. Eithr ni fynegir byth mo'r filfed ran o gyfrinion y goedwig ddistaw, lân; nid pethau i'w mynegi ydynt, ond pethau i'w teimlo i eigion calon, ac i'w trysori yn nyfnderoedd enaid.
Ryw ddydd, mae'n debyg, clywir swn bwyelli yn y coedwigoedd tawel, a chroch nadau'r agerbeiriant yn adsain drwy'r cymoedd llonydd, gan ddygyfor ei fwg du ar y dyfroedd grisialog, a throi'r perliog wlith sy'n nythu ar fron pob blod'yn gwiw yn ddefnynnau marwol i ysu a difa'r tlysni. Diolch ynte am gael troedio'r ardd cyn cyrraedd o'r sarff.