Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XIII

TUAG ADRE.

 EDI dadflino a sobri o helyntion y daith ddiweddaf, bu raid dechreu pacio o ddifrif, canys yr oeddym yn gorfod troi'n ol ymhen ychydig ddyddiau, er ein mawr ofid. Y syniad cyffredin am bacio yw, llawer iawn o focsus yn llawn o ddilladau o bob lliw a llun, y rhan fwyaf yn hollol ddifudd ac anaddes, a chymaint o helynts wrth eu trefnu a'u hail-drefnu a phe byddai bywyd dyn yn dibynnu ar ei ddillad. Mae aml i hen wladfawr wedi cael oriau o ddifyrrwch diniwed wrth wylio newyddddyfodwr, neu gringo, ys dywed yr Hispaenwr, yn cychwyn ar ei daith gyntaf i'r Andes. Mor gryno a thwt yw pob peth, a phob bocs fel pe newydd ddod o'r masnachdy, yn edrych yn boenus o loew, ac yntau'r teithiwr mor ddestlus a glân ei drwsiad, a'r cyfrwy Prydeinig newydd. spon, prif destyn sport a dirmyg llanciau'r paith, a golwg mor anhywaith arno nes gwneud i bob asgwrn a chymal frifo wrth edrych arno heb son am ei farchogaeth am