ryw bedwar can milltir. Doniol yw gweled ambell i hen geffyl brodorol, callach na'r cyffredin, yn troi ei ben i edrych yn syn ar y weledigaeth ryfedd; anodd peidio credu, gan mor ddeallus yr edrych, nad yw'n ffurfio barn ddistaw am allu teithiol y perchennog. Nid oes ond profiad chwerw a ddarbwylla'r gringo o'i fiolnieb a'i ystyfnigrwydd. Bydd yn ddigon gwylaidd cyn cyrraedd pen y daith, ac ychydig bach yn debycach i'w gylchynion, er na ddaw efe byth yn rhan o'r darlun fel yr hen frodor- ion; mae'r brodor a'i geffyl a'i gêr a'i ddillad yn un, mewn perffaith gydgordiad, ac yn un o'r golygfeydd mwyaf hudolus a swynol ar yr holl wastadeddau. Onid ydych wedi sylwi gymaint mwy dyddorol yw gwisg y Colonials Prydeinig? Maent wedi addasu eu gwisgoedd i'w cylchynion, ac felly yn edrych yn berffaith naturiol a dilyfethair. Dilyn natur yn lle celf-dilyn y gwladfawyr ieuainc yn lle Paris, a fyddai eithaf adnod yng nghredo Prydain heddyw.
Ond, i ba le yr aethom, wys! Nid gringos oeddym ni, ond hen deithwyr profiadol, wedi bod drwy bob helyntion allasai'r paith mawr ei ddarpar ar ein cyfer; ac yr oeddym yn pacio ein wagen yn yr adgof am y pethau hyn, ac yn ceisio rhagddarparu ar gyfer pob anap. Tra'r dynion yn brysur yn trwsio a chryfhau'r gêr, a gofalu am ddigon o olew ar gymalau'r wagen, gan gofio am y gwres a'r llwch oedd o'n blaenau, cedwid ni'r merched fel gwenyn. nid yn casglu mêl ychwaith, ond mefus, a'u berwi mewn crochannau enfawr, a dihysbyddu'r tai o bob tun gwag drwy'r holl fro, i gario y melusion gwerthfawr i wlad nad. oedd yn llifeirio o laeth a mefus.