Dyddiau hapus oedd y rheiny, tymor dedwydd plentyndod wedi dod yn ol am ennyd,—allan gyda'r wawrddydd, pawb a'i fasged ar ei fraich yn canu a dawnsio o wir lawenydd calon. Ond weithiau deuai cysgod y 'madael ar heulwen fy nedwyddwch, a chiliwn at lan Llwchwr i geisio lleddfu fy hiraeth, a gwrando yn astud a dwys ar neges a chenadwri y mynyddoedd mawr a syllent arnaf o'r uchelderau pell. Un o blant y gwastadeddau oeddwn i, ond yn hannu o'r Eryri, a dyna mae'n debyg sydd i gyfrif mai ar y mynyddoedd y mae fy nghalon bob amser. Mewn tristyd mud yr edrychwn ar y gadwyn wen a gylchynnai'r dyffryn tawel, a'm henaid yn dyheu am gael llechu yng nghysgod eu glendid, ymhell o swn y byd a'i stormydd. Yr oedd y tawelwch a'r unigedd, a natur yn ei harddwch cyntefig, wedi suddo i eigion fy modolaeth, ac wedi defiro pob peth oedd oreu ynof; llawer delfryd a meddylddrych tlws a ddaeth yn eiddo imi tra'n byw fel glöyn ar felus fwyd natur. Ac yn ofnus a chrynedig y wynebwn y gwastadeddau a'r bywyd gwladfaol helbulus, a'r mân ofidiau beunyddiol; ofnwn golli'r delweddau newydd, a syrthio'n ol i'r hen rigolau. Hoffaswn gael mwy o amser i fagu nerth meddyliol wrth draed fy Ngamaliel, a naddu sylfaen o graig yr Andes. Weithiau meddyliwn fy mod yn cael fy ngolwg olaf ar gewri y byd newydd, a dyblai hynny fy mhruddglwyf, ond yng nghilfachau cysegredicaf fy nghalon, blagura gobaith am ail olwg, ac er imi deithio ddeg mil o filltiroedd oddiwrthynt, mae'r gobaith yn dal i dyfu yn gryf ac iach. Ond ysywaeth, y mae'r pyst a'r gwifrau yn dringo'r llethrau erbyn heddyw, a thrydan yn cydio'r hen a'r newydd wrth
Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/120
Gwedd