ei gilydd. Ond cymer ganrif dda i wareiddiad ddifwyno'r Andes; felly ni raid brysio.
Ofnaf na chynorthwyais lawer i gasglu mefus na phacio'r wagen, ac fel y nesai diwrnod y cychwyn collid. Eluned o'r cwmni yn aml, ond diau mai buddiol imi oedd y prysurdeb a'r darpar, canys yr oedd fy hiraeth yn llethol, a neb yn deall na neb yn cydymdeimlo ond yr hen fynyddoedd.
Fe ddaeth y noson olaf, a natur wedi bod yn gwgu drwy'r dydd cymylau duon brochus yn ymwibio draws y ffurfafen las, ac yn tywyllu pelydrau llachar yr haul; ond er cymylu o'r haul, yr oedd y gwres yn llethol, a hawdd oedd teimlo'r ystorm yn dod o bell. Gwyddai'r adar hefyd fod y ddrycin ar eu gwarthaf: distawodd eu cân, safodd eu gwaith, ac ni welid hwy yn picio of frigyn i frigyn gan drydar ar ei gilydd a dyfal gasglu ymborth i'r rhai bychain a ddisgwylient wrthynt. Na, safent yn swrth a'u pennau yn eu plu ar y canghennan mwyaf cysgodol, fel pe'n ymbaratoi i wneud eu goreu o'r gwaethaf. Gellid gweled y ceffylau yn carlamu'n orwyllt tua'r coedwigoedd, tra'r taranau yn clecian o graig i graig; dolefai'r praidd yn ofnus gan dyrru at ei gilydd fel pe'n teimlo fod diogelwch mewn rhif. Anelu am y corlannau a wnae'r daoedd yn lluoedd tristfawr, canys yr oedd yn fachlud haul ac yn amser godro; udai'r cŵn yn aflafar, ac ni cheid taw arnynt nes eu gollwng i'r ty. Eithr yr hyn a dynnai fy sylw fwyaf oedd cwhwfan yr ysguthanod a lechent yn y llwyn bedw gylch y ty; yr oedd eu cŵ-cw fel rhyw gyfeiliant lleddf-dyner wedi pob taran. ac fel pe'n ceisio cysuro ei gilydd. Ond dal i dduo yr