oedd y wybren, a'r mellt fforchog, fflamgoch, yn gwibio ac yn gwau fel seirff tanllyd, a'r taranau yn rhuo fel magnelau, gan siglo'r creigiau cylchynnol. Ond yn y bwthyn coed yr oedd cân a thelyn, ac aclwyd lawen: plantos bach yn canu, â'u lleisiau fel y wawrddydd, hen ac icuainc a'u pennill yn eu tro, a thinc y tannau tynion yn llanw'r bwlch yn hapus pan fyddai'r awen yn gorffwys ar ei rhwyfau. Eithr a ni'n ceisio boddi'r storm a'r hiraeth mewn noson lawen, daeth taran a fuasai'n casglu nerth ar yr uchelderau, debygaf, i daro ar y bwthyn bychan nes yr oedd yn siglo fel corsen ysig, a thannau'r delyn yn torri o un i un dan fysedd celfydd y telynor; a bu dychryn a braw yn y cwmni diddan. Ond unwaith y cawsom ni fynd allan i'r ystorm, a bod yn dystion o'i mawredd a'i gogoniant, trodd yr ofn yn edmygedd, a'r dychryn yn fwyniant bythgofiadwy. Yr oedd yn gaddugawl dywyll ond pan fflachiai ambell i fellten eirias drwy'r tywyllwch dudew, gan roi i ni gipolwg ar fyd newydd spon. Nid yr un oedd y Fro dan wenau haul a than wg yr elfennau, a rhyw deimlad rhyfedd oedd bod mewn nos a dydd bob yn ail eiliad o hyd, canys gwibiai'r mellt gyda chyflymdra dychrynllyd, gan roi rhyw gylchdro o amgylch y cwm. Weithiau dringai lethrau'r Mynydd Llwyd o lam i lam, fel hydd yn ffoi rhag yr heliwr, ac wedi cyrraedd y copa gwyn, gwasgarai'n fil o wreichion gan droi'r ia oesol yn dân ysol. Cymerai un arall ei thaith drwy'r coed, gan ddawnsio ar y brigau uchaf neu gyniwair drwy'r drysni a throi'r glesni a'r blodau fel gwawl y nef. Daeth un i ymyl y cartref lle y safai hen fedwen dalgref a welsai lawer
Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/122
Gwedd