ddelo'r hwn a luniwyd ar ddelw'r nef i feddiannu eu hetifeddiaeth!
Nid wyf fi elyn i wareiddiad, ond O! y trueni fod yn rhaid aberthu cymaint er ei fwyn, eithr a yw y rheidiau hyn i gyd yn gyfiawn? Ymddengys i mi weithiau ein bod yn colli pethau gwell wrth geisio am yr ymwareiddiad yma. Pan oedd Cymru'n wledig, syml a thawel, y gwnaeth ei gwaith goreu; nid yw tyrru i'r dinasoedd a'r pentrefydd wedi gwella dim ar hen wlad ein tadau yn ystyr goreu'r gair. Mae'n rhaid i bob enaid cryf wrth dawelwch ac unigedd i wynebu ei fywyd a dewis ei frenin.
Mae yna gyfnod unig ymhob bywyd arwrol, nid unig- edd yr anial a'r mynydd bob amser hwyrach: gall fod yn unigedd rhwng muriau'r carchardy, neu eiddo'r alltud ymhell o'i fro, ond mae yno dawelwch i ddwysfyfyrio ac i gasglu nerth ysbrydol, ac ennill buddugoliaethau a'u galluoga i adael y byd yn well ac yn burach nag y cafwyd ef. Oni bydd hyn yn amcan a nôd pob bywyd, yn ofer ac am ddim y llafurir.
Maddeued y mwyn ddarllenydd i mi am grwydro -oddiwrth fy ngwers. 'Rwy'n addaw mynd yn syth at fy ngwaith yn awr, a chychwyn i'r Andes ar fy union ar gefn fy march gwyn, a theithio cyn dod adre'n ol ryw 2500 o filltiroedd, a gweled rhai o olygfeydd mwyaf godidog y byd.
'Rwyf wedi bod yn ceisio dweyd wrthych o'r blaen y fath le yw'r Wladfa Gymreig. Ond pe bawn yn dweyd. ar hyd fy oes, fyddech chwi fawr doethach, gan ei fod yn berffaith amhosibl i chwi ddychmygu am le mor anhebyg