i ddim welsoch erioed. Ond fe gymeraf yn ganiataol eich bod yn cofio prif ffeithiau sefydliad y Wladfa ar y Gamwy, canys y mae'n rhaid i ni'n awr adael y dyffryn. hwnnw o'n hol, a theithio 400 milltir drwy anialdiroedd difrifol cyn cael cip ar gyrrau'r Andes.
Y mae man uchaf y dyffryn yn wersyllfa gyffredinol gan y rhai sydd yn cychwyn tua'r Andes; bydd yno lawer o wagenni gyda'u gilydd weithiau. Felly y bu pan oedd— ym ninnau yn cychwyn—yr oedd yno ddeg o wagenni, a chwe' cheffyl ymhob un.
Deuparth gwaith yw dechreu"—a deuparth taith yw cychwyn hefyd. Mae pob peth yn mynd yn hwyliog ar ol cychwyn iawn. Gelwir y wersyllfa gyntaf yn Ffos. Halen," a bydd yno gynhulliad mawr yn ystod misoedd yr haf; yno y mae pawb yn taclu ei wagen yn gryno, ac yn diosg ei wisg glasurol, wareiddiedig, ac yn gwisgo am. dano yn wreiddiol Batagonaidd, neu, mewn geiriau ereill, yn ei addasu ei hun i'r daith. Mae ambell i gyfnewidiad yn chwerthinllyd i'r eithaf—adgofiai fi am lawer hysbysiad Saesneg welswn mewn newydduron a misolion—" Before and after." Er fod yn y Ffos Halen lawer o wagenni, nid oedd yn ein cwmmi arbennig ni ond un wagen a phump— o bersonau,—y Bonwr Rhys Tomos yn gofalu am y wagen, Caradog yn gyrru'r ceffylau, a Mair (merch Rhys Tomos) a ninnau ar bob i geffyl.
Wrth edrych dros fy nyddlyfr gwelaf y nodiad canlynol am y Ffos Halen:"Tachwedd 25ain. Cyrraedd hyd yma tua 2 o'r gloch, y marchogwyr ar newynnu, a'r wagenni a'r bwyd mor hir yn dod, ond wedi iddynt gyrraedd, hei ati i wneud tân a hel y gêr coginio o bob