cyfeiriad.—Cael cwpaned o de ardderchog a thafelli o fara ymenyn teilwng o unrhyw was ffarm, a welsoch chi erioed mor felus oeddynt."
Llawer gwigwyl (neu picnic ys dywed Dic Shon Dafydd) gynhelir yng Nghymru yn ystod misoedd yr haf, a hwyrach fod rhai o'm darllenwyr yn meddwl mai rhywbeth felly oedd y pryd bwyd hwnnw yn y Ffos Halen,—y llian claerwyn a'r llestri tsheni a phob danteithion, a'r boneddigesau yn ymgystadlu â'r blodau yn eu gwisgoedd amryliw, a'r goedwig yn moesgrymu'n wylaidd, gan daenu ei chysgod gwyrddlas dros y cyfan. Na, nid fel yna y teithir anialdiroedd Patagonia. 'Doedd dim coeden yn cysgodi rhag gwres haul canol haf, pridd llwyd y Wladfa yn cymeryd lle y llian claerwyn, a phawb a'i gwpan dun yn mwynhau ei de wedi ei wneud yn y tegell.
Yr oedd Mair a minnau wedi ein breintio â chysgod pabell i lechu'r nos, a mawr yr helynt y noson gyntaf yn gosod honno i fyny, a ninnau'n dysgu sut i droi ynddi heb ddod i wrthdarawiad. Erbyn i ni gael trefn ar bethau, a cherdded o gwmpas i ystwytho tipyn ar ein cymalau blinedig, yr oedd yr haul ar fynd i lawr, a ninnau'n barod i'n swper. Yr oedd y cawl wedi bod yn berwi'n soup ddyíal, a dyna bawb i 'mofyn ei blat tun a'i lwy haearn, ac eistedd yn gylch, a gosod y crochon cawl yn y canol, a phawb i'w helpu ei hun. "How vulgar!" meddai ambell fonhesig fursenaidd.
Ond—gwelwch draw yng nghyfeiriad y Dwyrain. Beth sydd yn gwneud i bawb dewi'n sydyn, gan syllu mewn edmygedd mud? Mae'r haul wedi ffarwelio hyd doriad gwawr yfory; ond wedi gadael ei gysgod megys yn ernes