o'i ail ddyfodiad. Mae'r wlad fawr wastad yn ymagor o'n blaenau, a'r hen afon Camwy yn ymdroelli ac yn ho too ymddolennu ar ei thaith tua'r môr, ac wele'n codi megys o eigion y môr hwnnw yr hyn ymddengys fel pelen o dan ysol; mae'n symud yn raddol, raddol, ond mor ofnadwy ddistaw yw ei holl symudiadau, mae'n gwneud i'r rhai sy'n syllu ddal eu hanadl nid mewn braw, ond mewn rhyw barch a chysegredigrwydd nas esbonir mewn geiriau.
Ond wele frenhines y nos wedi esgyn i'w gorsedd, ac mae'n edrych yn ogoneddus, a holl lu'r wybren yn brysio i dalu teyrnged iddi; a ninnau, y cwmni bychan ar ganol y paith mawr unig, yn methu peidio codi ein llef mewn cân o fawl i Grewr y cyfan.
Gorffwys yn gynnar yw y rheol ar y paith, a buan yr oedd pawb wedi taclu ei orffwysfan, y dynion yn nghysgod y llwyni drain, a ninnau ein dwy yn y babell. Nid oes eisieu goleuni trydanol ar beithdiroedd Patagonia; mae yna oleudy mawr i fyny fry, ac mae'r gwyliwr ar y tŵr wedi trimio ei lamp a gloewi ei wydr mor dda fel na buasai goleu trydanol (y darganfyddiad mawr diweddaraf) ond megys cannwyll frwyn wrth ei ochr.
Distawrwydd y paith yn y nos,—pwy all fynegi am. dano na'i egluro? Peth i'w deimlo ydyw, ac nid i ysgrifennu na siarad am dano. Anawdd peidio breuddwydio aml i freuddwyd tlws wrth syllu ar y wybren serliog uwch ben, a theimlo ei bod mor ddistaw fel os gwrandawn yn astud y daw i ni ryw genadwri o arall fyd.
Llawer ddychmygais wrth syllu a gwrando felly—fath le oedd "tuhwnt i'r llen" ddisglaer yna? Beth oedd fy hen gyfeillion aethent adre o'm blaen yn wneud?