Hoffwn gredu fod yr ysgol welsai Jacob gynt wedi ei gosod yn ein gwersyll bychan ninnau, ac fod yna wylwyr tyner yn esgyn ac yn disgyn ar hyd-ddi rhag digwydd i ni niwaid.
Yn swn murmur yr hen afon a chyfarthiad ambell lwynog ddaethai o'i ffau i geisio ysglyfaeth, a chwhwfan dolefus ambell golomen, buan y taena cwsg ei fantell dros y teithiwr blin; a chwsg melus, iachus, yw; mae'n rhoi ynni ac ysbrydiaeth newydd i bawb a'i mwynhao.
Ond daw terfyn, rhy fuan gan rai o honom, i'r cyntun hyfryd hwn pan fydd y cantwr llwyd yn dechreu trimio ei edyn a chymeryd ei gyweirnod, a'r hwyaid gwylltion yn cael eu trochfa foreuol, daw gwaedd o gysgod y llwyn—"All hands on deck, mae'r tegell wedi berwi a'r ceffylau yn dod i mewn." Nid gwiw oedd anufuddhau i'r waedd, canys gwyddem mai'r gosb am anufudd-dod fyddai dymchwel y babell. Deg munud fan bellaf yw'r amser ganiateir i ymwisgo, a rhaid gofalu fod y cwrlid wedi ei raffu'n gryno yn barod i'w roi yn y wagen. Gwiriem yr hen air bob bore,—"Cyfod i fyny dy wely a rhodia."
Mwynheir y boreufwyd yn wastad ar y paith; nid oes yno neb a'i lygaid yn bwl, ac yn pigo ei fwyd fel aderyn; mae mor hyfryd ar doriad gwawr hefyd, cyn gwres a lludded y dydd, pawb yn llawen ac yn prysur gynllunio taith y dydd. Os bydd pethau'n dod yn hwylus, byddys yn barod i gychwyn ar godiad haul.
Mae clywed cyfarthiad y llwyrog o bell yn burion, ac yn atodi at swn y paith yn y nos, ond os daw yn ymwelydd agos, bydd yno wagder mawr yn y gwersyll fore trannoeth. Caem gyfle ar hwyaden neu wydd wyllt