yr hen afon y dywedwn fy holl gwynion 'a'm cyfrinion: ar ei glan y cefais rai o freuddwydion melusaf fy mywyd, ac wrth wylio'r pysgod yn ymbrancio ar fachlud haul y dechreuais holi am ryfeddodau'r dyfrder, ac wrth wrando ar iaith natur yn y nos y deuthum i edrych ar bob deilen gain a phob blodeuyn pèr fel hen gyfeillion. Daeth tymhorau'r flwyddyn yn fil mwy dyddorol na'r un llyfr a ysgrifennwyd erioed.
Felly, nid rhyfedd ein bod yn tristâu—canys plant
Gamwy oeddym i gyd—wrth fferwelio à hen gyfeillion
mor gu, a diau i aml saeth—weddi esgyn tua'r orsedd wen
am nodded nef dros ein Gwladfa, ac arncm ninnau tra ar
ein taith i estron fro. A thithau, fwyn ddarllenydd, os
teithiaist gyda ni i gwr y daith, tyred bellach i gydsyllu
ar bigynnau gwynion yr Andes bell, a'r iâ oesol tan belydrau llachar yr haul fel pe'n adlewyrchu gwlad yr haul tragwyddol.