Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IV.
CROESI'R "HIRDAITH"
ADEWAIS chwi mewn lle hallt braidd yn
y bennod ddiweddaf, canys cychwyn o'r
Ffos Halen yr oeddym, a thipyn o
hiraeth dirgelaidd yn aflonyddu arnom.
Ond unwaith y collwyd golwg ar yr hen
afon, yr oedd ein holl fryd a'n dyddordeb
yn yr hyn oedd ymlaen.
Taith fer, ddiflas, wnaed y diwrnod cyntaf ar ol gadael yr afon, dim ond drain, drain diddiwedd, nes blino o'r llygaid ar yr unffurfiaeth. Wrth edrych dros fy nyddlyfr gwelaf y nodiad canlynol am y daith-Cyrraedd y Campamento am dri o'r gloch, ac o bob lle diffaith, diflas, gwyntog, anyddorol, dyma frenin y teithiau,—hen fryn graeanog, moel, heb gymaint a chysgod twmpath, ac