wedi gwneud ein ceffylau yn ddiogel, a rhoddi iddynt hwythau wledd o felus-win natur, cychwynasom ar i fyny. Gwelem draw dwmpath o hesg hyfryd yr olwg arno. Gan mor wyn ei ddail ac mor glaerwyn ei flodau, meddyliwn mai fan hono y gwelem ei tharddiad. Ac felly y bu. Ie, ond o ba le mae hi'n dod i'r fan hyn? meddai Mair. Ie, wir, o ba le! canys tarddai yn siriol o grombil y graig, un o'i ystordai mawr Ef. Eisteddem ar fin y dwr i ddisgwyl ein cyfeillion, gan lechu ynghysgod y twmpath gwyrddlas, a gwrando ar natur yn dweyd ei stori yn ei hiaith ei hun. Onid yw pob goslef o'i llais yn beroriaeth? Nid oes neb yn trigo o fewn cannoedd o filltiroedd i'r ffrydlif fechan hon; ord i'r teithwyr blin y mae fel pelydr o baradwys, a'i miwsig fel su edyn angylion. Yr oeddym wedi crwydro i fyd mor ddedwydd fel yr oedd yn ddrwg gennym weled y wagenni yn dod i dorri ar ddistawrwydd mor swynhudol.
Ac eithrio'r ffrydiau wrth y rhai y gwersyllem, nid oedd fawr wahaniaeth rhwng y teithiau-peithdir drein- iog anyddorol, ond mewn ambell fan byddai'r drain yn llawn blodau. Llawer feddyliais wrth edrych ar y drain bytholwyrdd hyn gyda'u dail iraidd a'u blodau pêr ynghanol y crasdir, mor ddoeth a chywrain yw trefn natur yn darparu llysiau addas i bob math o hinsoddau, a thrwy hynny yn gwasgar prydferthwch ar hyd wyneb yr holl ddaear.
Gwnaed aml ymgais yn y Wladfa i dyfu drain y paith fel perthi gylch y ffermdai, i'w gwneud yn debycach i hen gartrefi Cymru. Ond na, ni fyn y ddraenen wenu yn y dyffryn, na gwasgar ei pherarogl ar lan afonydd