Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyfroedd: nid gwasgar tlysni ar y dyffryn yw ei gwaith; plannwyd hi gan law Ddwyfol yr Hwn sy'n gofalu nad oes. hyd yn oed aderyn y to yn ddigysgod. Mae ar y gwastadeddau hyn filoedd o anifeiliaid, ymlusgiaid, ac ednod, yn cael noddfa glyd rhag stormydd gaeaf a chysgod rhag heulwen haf. Mae glaswellt hir yn tyfu yn lleithder gwreiddiau'r ddraenen sy'n flasus-fwyd a gâr yr anifail gwyllt: mae ei hadau fel grawn addfed i'r cyfeillion. asgellog sy'n nythu mor hapus a diofn yn y canghennau. A phan ddel y teithiwr blin am dro drwy ardd Eden y paith, mae'n estyn iddo yntau yn haelionus o'i holl drysorau heb ddisgwyl dim yn ol.

Gwyn fyd na allai miloedd o bobl ieuainc Cymru dreulio ambell wythnos mewn blwyddyn ynghanol yr eangderau hyn; caech lawer breuddwyd tlws am bethau. goreu bywyd, a byddai eich byd yn wynnach byth o'r herwydd.

Er ei bod yn fis Rhagfyr ac yn ganol haf, oer iawn fu'r hin ar hyd y ffordd. Teimlem ias yr ia oesol ar yr awel, ond awel y mynyddoedd ydoedd, yn llawn nwyf ac iechyd. Ymhyfrydem ynddi, a theimlem ein calon yn dweyd yn aml mai da oedd cael byw. Pan oeddym o fewn rhyw daith diwrnod i'r olwg gyntaf ar yr Andes, cawsom storm o wynt mor gethin ac mor oer fel mai prin y gallem gadw ar ein ceffylau, a'r eira ar yr awel mor finiog nes gwneud difrod alaethus ar y tipyn croen oedd yn weddill ar ein hwynebau a'n dwylaw.

Os deil eich amynedd i'm dilyn hyd y diwedd, cawn gyd-wynfydu ar fawredd a thlysni yr Andes pell, a threulio dydd Nadolig ar ei gopa gwyn, yn gweled yr