Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VII.
BRODORION PATAGONIA
EDI bod yn treulio y prynhawn yng
nghwmni yr hen bennaeth brodorol,
bum yn meddwl llawer beth oedd hanes
Indiaid Patagonia tybed yn y gorffennol
pell, cyn dyfod y dyn gwyn i aflonyddu
ar eu heddwch ac i ladrata eu hetifeddiaeth.
Dengys wynebpryd, maint ac anianawd y brodorion, eu bod yn perthyn i bedair cenedl,—
(1) Pampiaid, sef trigolion gwastadeddau eang talaeth Buenos Aires.
(2) Arawcanod, a breswylient lethrau'r Andes o'r ddau tu.
(3) Tehuelches, brodorion tal a chorffol y canolbarth.
(4) Fuegiaid, sef pobl gorachaidd gwaelod eithaf dehau y cyfandir.