Pan sefydlwyd y Wladfa (1865), yr oedd y brodorion yn arglwyddi ar yr holl wlad o Cape Corrientes i lawr hyd Cape Horn, a'r holl berfeddwlad oddiyno i'r Andes. Gyda'r Arawcanod a'r Tehuelches y bu a fynno'r Wladfa yn fwyaf arbennig, yn enwedig yr olaf: hen gewri rhwth, tawel, ydynt hwy.
Yn 1520 y darganfuwyd Patagonia gan yr enwog Ferdinand Magellan, a rhoddodd ei enw ar Gulfor Magellan hyd heddyw; yna daeth Francis Drake yn 1578, ond gwibdeithio gyda'r arfordir a wnae'r teithwyr hyn, heb gael fawr cyfle i weld y brodorion na'r wlad.
Yn ystod y can mlyredd dilynol i ymweliad Drake, bu Narborough, Byron a Wallis yn gwibdeithio tua'r un cyffiniau. Ond ni chafwyd fawr iawn o hanes credadwy hyd ymweliad Darwin yn 1833, er na chafodd yntau nemawr gyfleusdra i dreiddio i'r gwastadeddau diderfyn a'i cylchynnai ar bob llaw, ond ganddo ef y cafwyd yr hanes credadwy cyntaf am Indiaid Patagonia. Mae ei nodiadau dyddorol ar ddaeareg a llysieuaeth y wlad yn hysbys ddigon i bawb bellach, fel na raid manylu. Ond i G. C. Musters y perthyn y clod o roi ar gof a chadw hanes a thraddodiadau yr Indiaid, y Tehuelches yn fwyaf arbennig. Bu efe fyw am ddeunaw mis yn eu mysg fel un o honynt, gan godi ei babell o wythnos i wythnos, a theithio cannoedd o filltiroedd drwy'r eangderau distaw, dyrus, a'i fywyd yn hollol at drugaredd y brodorion. A phan ddaeth yn ol i wareiddiad wedi hir bererindod, yn 1871, cyhoeddodd ei lyfr, "At Home with the Patagonians," a diau nad oes hyd yn oed yn y dyddiau cyfoethog hyn un llyfr mwy angherddol ddyddorol i bawb