Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Dyna i chwi bortread byw o'r hyn oedd hen frodorion Patagonia cyn i wareiddiad eu dirywio!
'Rwy'n teimlo mai dim ord cipolwg frysiog wyf wedi allu roi i chwi o'r hen frodorion; maent yn haeddu llyfr iddynt eu hunain, a gellid ei wneud yn angherddol o ddyddorol ond cael hamdden a heddwch i deithio eu gwlad a chasglu eu traddodiadau. Mae hyn yn un o- freuddwydion fy mywyd.
Ymhen ugain mlynedd eto, digon prin y bydd brodor
yn troedio'r peithdir, a'r llwybrau cul fu gynt yn gyniweirfa pobloedd lawer wedi diflannu fel hwythau o dan las
dywarchen yr hen ddaear. Fel y dyhea y meddwl dwys.
am gael gwybod yr hanes fu; ond nid oes dim ddistawed
â pheithdir Patagonia, na neb mor dawedog â'r hen
frodorion.