![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3c/Dringo%27r_Andes_%28page_74_crop%29.jpg/600px-Dringo%27r_Andes_%28page_74_crop%29.jpg)
PENNOD VIII.
CYRRAEDD TECA
HAGFYR 12fed.—Cyrraedd Teca, o fewn
deuddydd i ben ein taith. Dyffryn cul
porfaog, a'r afon Teca mewn gwely of
racan mân yn prysur rhedeg tua'i
harllwysiad gyda'i dwfr o risial yr ia
oesol. Yma y cawsom ni olwg agos
ar fawredd y mynyddoedd gyda'u
llethrau coediog bytholwyrdd. Er ei
bod yn ganol haf, yr oedd y mynyddoedd yn wyn
a'r gwynt yn oer gethin; yr oeddym wedi teithio drwy'r
dydd yn ei ddannedd, ac yn cyrraedd Teca tua machlud
haul yn oer a blinedig. Yr oedd yno fasnachdy bychan
gan Eidalwr, a chafodd Mair a minnau addewid o loches
dan y counter dros nos, a lloches glyd oedd hefyd: yr
oedd yno ddigonedd o grwyn pob anifail gwyllt o fewn
y mynyddoedd, a tho diddos i gadw allan fin y gwynt.
Cawson noson ardderchog, ac 01 yr oedd haul y bore