ar y mynyddoedd gwyn yn gwneud y byd i gyd yn wyn,—teimlo'n ddedwydd, diboen, a dibryder,—a phêr awelon y pinwydd fel bywyd o wlad well.
Bore drarnoeth yr oeddym yn ymwahanu; y menni a yn mynd gylch y mynyddoedd daith tridiau, a ninnau'n mynd trostynt daith diwrnod a hanner, dringo fry, fry oedd ein hares am oriau meithion y dydd cyntaf. Tua chanol dydd daethom at lyn hyfryd, glas ei ddwfr, yn llechu yng nghilfach y mynyddoedd, a'r fflamingos gyda'u gwisg o liw'r haul yn dotio at dlysni ac urddas eu hymgyrch o amgylch—ogylch y llyn mawr llydan. Gyda'r dringo parhaus yr oedd dyn ac anifail yn lluddedig, a melus oedd disychedu ar fin y dwfr, ac i'r ceffylau gael mwynhau'r glaswellt ir, ac i ninnau gael llechu yng nghysgod y llwyn bedw a pharatoi byrbryd. Pan oeddym fel hyn yn ein mwynhau ein hunain ynghanol. mawredd ac unigedd ein cylchynion, clywem swn carlamiad march yn agoshau: a daeth atom ddau frodor a bachgen bychan, yn dod yn ol o'r helfa guanacod. Dyna yw eu cynhaeaf hwy, yr amser y bydd y guanacod yn barod i'w lladd, a bydd y merched yn brysur yn gwneud pob math o rugs o'r crwyn, yn barod i'w gwerthu. Teimlwn fod ein byrbryd yn berffaith wedi cael yr hen Indiaid yno gylch y tân i gydfwynhau; 'anghofiaf fi byth fel yr oedd y crot bach yn mwynhau'r siwgr; nid oes gennyf ond gobeithio na fu raid iddo dalu treth drom am ei wledd o felusfwyd.
Wedi caru ffarwel â phlant natur, bu raid cychwyn eilwaith, canys yr oedd gennym daith flin cyn cyrraedd noddfa'r nos. Dal i ddringo yr oeddym o hyd nes oedd