ym yn teimlo ein bod bron cyrraedd byd y cymylau. O'r diwedd daethom at ddibyn fel mur ty, ac islaw, ar y dyffryn bychan gwyrdd oedd draw mewn cilfach gysgodol, gwelem fwthyn clyd a mŵg y simdde yn ymgodi tua'r copâu gwyn.
"Dyna ben y daith heno," meddai'r arweinydd.
"Ond sut mae mynd yno?" meddem, yn syn ar fin y dibyn erchyll.
"Yn syth i lawr ffordd hyn."
Cefais gynnyg cerdded i lawr ac arwain fy ngheffyl, ond ni welwn ryw lawer o ddewis rhwng i mi fynd i lawr gyda'm ceffyl nag i'r ceffyl ddod i lawr ar fy nghefn, a barnwn os oedd fy nghydwladfawr gyd-drotiasai i'r ysgol gyda mi yn mentro ar ei ben i'r dibyn, fod cystal cyfle i minnau gyrraedd y gwaelod yr un pryd a'm hysgrublyn. hest Beth pe caffech snap shot o honom yn gwneud y daith fythgofiadwy honno! Wedi mynd ychydig lathenni, byddai y cyfrwy a ninnau rhwng dwy glust y ceffyl, a phan fyddem yn mynd drosodd, rhoddai'r hen geffyl deallus hwb yn ol i ni â'i ben nes y byddem yn teimlo'n weddol ddiogel, ac fel yna, o lathen i lathen, gan droi a throelli igam-ogam nes cyrraedd y gwaelod. Ac yna, rhoed ochenaid ddofn, ddofn, o waelodion calonnau diolchgar; a phan aethpwyd i edrych yn ol, bu raid peidio, yr oedd yr hen fyd yma yn troi yn gyflymach nag arfer rywsut,—hwyrach ei fod o'n mynd yn gynt yn yr Andes.
Cawsom groesaw Cymreig, cynnes, gan deulu'r bwthyn. Yr oedd yno blant bach pert a gwrid y mynyddoedd ar eu gruddiau, a nwyf yr awel yn eu camrau chwim. Rhyfedd oedd cysgu mewn ty; yr oeddwn yn chwilio am y