Capel y Llwyn, y Ty Coch, Afon Llwchwr, a Throed yr Orsedd, yr oeddwn wedi mynd yn fud; nid yr olygfa yn unig oedd yr achos o hynny—nid mewn munud awr y sylweddolir tlysni a mawredd yr olygfa—ond fy meddwl oedd wedi glynu wrth yr enwau Cymraeg swynol a phersain. Yr oeddwn dros naw mil o filltiroedd o Wyllt Walia, ac eto, mewn cilfach o'r Andes fawr, yn eithaf Patagonia, wele'r capel Cymreig syml a'r hen enwau cysegredig mewn adgof a hiraeth am Eryri wen a'r "bwthyn lle cefais fy magu."
Mae'r Wladfa fechan ar y goror rhwng Chili ac Archentina, dwy wlad fawr Babyddol, lle mae gwareiddiad ganrifoedd ar ol Cymru wen. Beth wna'r fagad fechan Brotestanaidd hon megys yn ffau'r llewod rheibus? Bu Daniel fan honno hefyd, ond yr un yw Gwyliwr y llew o hyd. "Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a'm hiachawdwr— iaeth rhag pwy yr ofnaf? Yr Arglwydd yw nerth fy mywyd, rhag pwy y dychrynnaf." Dyna'r geiriau cyntaf glywais yng nghapel bach y Llwyn fore dydd Nadolig, 1899.
Llawer o helynt a phryder parhaus sydd parthed y ffin rhwng Chili ac Archentina, ond y mae yna ffin Geltaidd yn tyfu'n ddistaw—ddwys, a Brenin Tangnefedd ar orsedd y cwmwl gwyn yn teyrnasu. Bu raid ymysgwyd o'r myfyrdodau hya, canys yr oeddym wedi cyrraedd y Ty Coch, a hen gyfeillion anwyl yn estyn deheulaw mewn croesaw a llawenydd, o'r henafgwr pedwar ugain oed hyd at y bychan penfelyn na welsai'r Gamwy droellog erioed.