Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mefus addfed a blodau amryliw,—dyna'r pethau cyntaf dynnodd ein sylw ar ford y Ty Coch—croesaw natur i'r teithwyr ar ddiwedd y daith. Beth melusach, a pheth mor swynol? Blinedig iawn oeddym yn cyrraedd, ond yr oedd y croesaw mor gynnes, a'r gip gyntaf ar swynion yr Andes wedi gwneud i flinder ffoi.

Nid oedd danteithion y deulues groesawus yn abl i'm cadw o fewn muriau'r tŷ. Allan y mynnwn fyned i syllu'n ddiflin ar y coed hyfryd oedd gylch y tŷ, a'r oll yn plygu'n wylaidd o dan bwys eu blodau persawrus, a'r afon Llwchwr yn murmur ei neges wrth basio ar ei thaith. Carped o fwswgl sydd yng nghoedwigoedd Cymru, ond dyma wlad a'i charped o fefus ffrwythlon melus. Teithiais ugeiniau o filltiroedd ymhob cyfeiriad tra'n aros yn y fro, ond ni chollais fy nghyfeillion pêr yn unman: gwlad yn llifeirio o laeth a mefus yng ngwir ystyr y gair.

Yn Nhroed yr Orsedd yr oeddym wedi trefnu i wneud ein cartref tra yng ngwlad y mynyddoedd. Felly, yr oedd gennym i groesi'r afon Llwchwr eto cyn cyrraedd pen y daith. Rhydio'r afon a wneir, ac i'r rhai cyfarwydd mae'n waith digon hawdd. Yr oeddwn wedi arfer rhydio'r Gamwy, ond nid yw hi yn brysio ar ei thaith fel afonydd yr Andes.

Pan gychwynnodd ein harweinydd drwy'r Llwchwr, yr oeddwn i yn syllu ac yn dotio at y graean mân a gloewder y dwfr, a phan godais fy ngolygon, gwelwn fy nghyfeillion ar ganol yr afon yn mynd gyda rhyw gyflymder ofnadwy. Gwaeddais arnynt i anelu am y lan, ond chwerthin yn iachus wnaent, gan ddweyd mai am y lan yr oeddynt yn mynd, a phan euthum innau i ganol yr