Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

buasai yn amhosibl i ni gyrraedd diogelwch cyn y nos, ac i ni fyned yn ol yr un ffordd ag y daethem. Ond nid oedd neb wedi myned i lawr ar yr ochr ogleddol erioed! Wel, yr oedd yn rhaid i ni fyned, neu rewi ar y mynydd, ac yr oeddym bron yn y cyflwr hwnnw eisoes.

Erbyn dod i olwg y disgyniad ar yr ochr ogleddol, safem yn fud mewn arswyd ac ofn, ond yn fy myw ni allwn beidio teimlo mor fendigedig ydoedd yr olygfa.

Edrychwch, dyma flodau ynghanol yr eira a'r oerni: maent yn edrych mor siriol â phe mewn nyth o fwswgl, ac mor bersawrus a'r briallu yn y coetir, a rhyfedd mor debyg i'r friallen ydynt o ran en ffurf, ond fod y lliw fel glas y nen. Yr oedd awydd arnaf dynnu tusw, ond edrychent mor bur ac mor ddedwydd fel na allwn eu cyffwrdd, dim ond sisial," Ffarwel, flodeuyn bach, eiriol drosof fi."

Gwelwyd nad oedd ddiben i ni ein hymddified ein hunain ar y ceffylau mwyach: yr oedd y disgyniad yn rhy serth. Felly, gollyngwyd hwy i ymdaro oreu gallent, gan obeithio y deuem o hyd iddynt rywle tua godre'r mynydd. Ni allem ninnau gerdded i lawr, dim ond llithro a'n llywio'n hunain â'n dwylaw ac â'n traed oreu gallem. Wedi i ni ddechreu cynefmo â'r gwaith, cawsom hwyl yn iawn. Llawer chwerthiniad iachus glywyd yn adsain rhwng y creigiau cylchynnol, a phan ddeuem i ddarn go wastad, torrem allan i ganu ambell i hoff emyn. Cyraeddasom y gwaelod yn ddiogel, wedi anghofio ein holl ofidiau, a chan feddwl am y gwynfyd a'r mwyniant gawsem.

Gwyddem fod tŷ y cyfaill Jacob Morgan heb fod nepell, ac y caem lety clyd a chroesaw cynnes gan y deulues