hawddgar. Beth pe dywedwn hanes y tê arbennig hwnnw wrthych ar ol bod o godiad haul hyd ei fachludiad yn teithio yn awel y mynydd, heb dorri newyn unwaith? 'Rwy'n sicr fod gan Mrs. Morgan gof byw am y pryd bwyd hwnnw, ond nid wyf fi yn mynd i ddweyd yr hanes heb ganiatad y cwmni.
Yr oedd yna ryw obaith distaw ymysg y cwmni y buasai Eluned wedi blino gormod i gychwyn taith arall drannoeth. Ond cefais y fath noson o gysgu ardderchog, fel yr oeddwn yn teimlo fel ewig fore trannoeth; a phan aethpwyd i sôn am y Dyffryn Oer a'r llyn hyfryd oedd yno, a thaith drwy goedwigoedd a chorsydd i fynd yno, parod fi ar y funud. Ond aeth y cwmni ar y streic. Mynnai pedwar fynd adref. Arhosodd un gyda mi, ac unodd Mrs. Morgan, fel yr oeddym yn dri yn cychwyn i'r Dyffryn Oer,-trineg milltir o ffordd, a buom yn teithio o naw y bore hyd naw y nos drwy erddi o fefus addfed hyfryd, drwy goedwigoedd tewfrig, drwy gorsydd lleidiog, i fyny ac i lawr y cymoedd.
Nid oedd ond un bwthyn bugail unig yn yr holl ddyffryn, ond pe buasai yn balas y Tylwyth Teg, ni fuasem falchach o'i weled. Byddaf yn credu'n ddistaw fod y bugail wedi ein cymeryd ni fel rhai o drigolion Gwlad Hud y noson honno, gan mor anisgwyliadwy ein hymweliad ar awr mor hwyr o'r nos. Ond bydd gennyf gof melus am groesaw'r bugail a lloches ei fwthyn unig, a murmur y nant a'm suodd i gysgu, a swn tonnau tryloewon y llyn a'm deffrodd yn y bore, a'r bugail caredig ei galon farchogodd dair milltir yn oriau mân y bore er mwyn i'r teithwyr gael llaeth iachus i'w boreufwyd.