
PENNOD X.
DILYN YR AFON.
REDAF fod trigolion Troed yr Orsedd
braidd yn synnu fy ngweled yn cyrraedd
adref a'm hesgyrn yn gyfain, a bu y
ffaith i mi gyrraedd yn fyw yn help i
mi ffurfio cwmni arall i wneud taith i
lawr yr afor Caranlewfw (afon las). Hon
yw'r afon fwyaf yn y cylchynion, ac yr oeddwn wedi
clywed llawer am ramantedd a mawredd ei golygfeydd
gan yr unig un fuasai yn troedio ei llwybrau dyrus-Percy
Wharton, un o sefydlwyr cyntaf y Fro, a'r mwyaf egniol
a gweithgar, yn Gymro pur er gwaethaf ei enw, ac yn
delynor gwych,-rhyfedd oedd gweled yr hen delyn
swynol yn y caban coed wrth odreu'r Andes.
Ar y daith hon yr oeddym yn chwech mewn nifer, pedair o wyryfon, yr arweinydd Percy, a Brychan. Cychwynnem gyda thoriad gwawr, gan gymeryd gyda ni ddigon o luniaeth am un byrbryd. Ni allasom fyned food