daw rhai o'u llys i chwilio amdanynt, gan eu bod i ddychwelyd gartref cyn i'r wawr dorri."
"Sut y dônt yn rhydd yr adeg honno?"
"Aiff y lleill i chwilio am fwsog pwrpasol, a rhwbiant eu traed á'r mwsog, ac yna gallant symud yn rhwydd."
Yn y fan daeth i gof Hywel, wrth glywed hyn, fel yr oedd ef wedi bod yn sefyll ac yn methu symud o dan y coed helyg, ac fel y darfu i Dylwyth y ddwy gadwen rwbio ei draed a'i ryddhau, a meddyliai,—"Nid dyma y tro cyntaf i'r giwaid yma gael gafael arnaf, fel y mynnai Tylwyth y ddwy gadwen i mi gredu cyn hyn. O na bawn wedi gwrando arnat! Pa bryd y caf dy gwmni eto, Dylwyth caredig?" Ond wrth y rhai oedd yn ei wylio, dywedodd,—"Gallwch fynd ar ôl eich Tylwyth os mynnwch. Byddaf yn sicr o fod yma pan y deuwch yn ôl, nis gallaf symud."
"Digon gwir nas gelli symud. Ond beth pe bai Tylwyth y Coed yn dod yma ac yn dy ollwng yn rhydd? 'Does dim yn rhoi mwy o bleser iddynt na chroesi ein cynlluniau."
"O diar," meddyliai Hywel, "paham mae'n rhaid i neb gynllunio o'm hachos i? Y cwbl sydd arnaf eisiau yw mynd dros y gamfa." Ac wrth gofio am y gamfa, aeth i feddwl am ei gartref, a'i dad, a'i fam, a'i nain, ac i hiraethu amdanynt, ac nis gallai atal dagrau gloywon rhag treiglo dros ei ruddiau. Ac ebe un o'r rhai oedd yn ei wylio,—
"Paid a gadael i'r Tylwyth weld dagrau ar dy wyneb, os nad oes arnat eisiau achos i golli rhagor."
Ceisiodd Hywel ymwroli yn ddioed, a dyna lle'r oedd yn gobeithio â'i holl galon i'r awel sychu ôl y dagrau oddiar ei wyneb cyn i'r gweddill ddychwelyd. Yr oedd ei adnabyddiaeth ohonynt yn gyfryw fel nas gallai ond credu yr hyn a ddywedai ei wyliwr wrtho. A pharodd ystyried hyn iddo deimlo eto y dylai roddi holl rym ei feddwl ar waith i geisio cael dod yn rhydd o'u gafael. Pan yn meddwl am y cynllun yma a'r cynllun arall, a'r naill ar ôl y llall yn ymddangos yn llai posibl i'w gario allan, y mae y Tylwyth Chwim yn dod yn ôl ar redeg, ac amlwg ar eu hwynebau fod rhywbeth wedi eu llwyr gynhyrfu, ac meddai'r arweinydd wrth y gwylwyr,—
"Beth ddyliech chwi, y mae Tylwyth y Coed allan yn finteioedd i geisio cael Hywel o'n gafael. Cawsom air o'n llys pan oeddym o fewn ychydig lathenni i'w chwaraele, a throisom yn ôl heb golli eillad o amser. Yn awr, ewch chwithau ar redeg i'r llys i nôl gwisg iddo, gwisg goch fel ein gwisg ni."
Heb aros i ofyn cymaint ag un cwestiwn, ymaith a'r ddau wyliwr fel dau ewig, a'r gweddill yn siarad yn gyflym â'i gilydd, ac ar draws ei gilydd, a phob gair ddeuai dros eu genau yn profi mor llawn o elyniaeth oeddynt at Dylwyth y