Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dros y Gamfa.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Coed, ac mor sicr oeddynt y byddai i'r cynllun yma o'u heiddo o wisgo Hywel yn y wisg goch ddyrysu a chamarwain y rhai oedd yn ceisio ei waredu. Er bod llawer o'r hyn ddywedent yn synnu ac yn rhyfeddu Hywel, nid oedd yn cynhyrchu ond un cwestiwn yn ei feddwl,—"Sut yn y byd y medraf wthio eu dillad am danaf, a hwythau gymaint yn llai na fi?"

Ni chafodd amser i betruso yn hir. Yr oedd y ddau wyliwr yn ôl, ac yn ôl mewn cyn lleied o amser nes peri iddo gredu fod eu llys yn nes nag yr oedd wedi meddwl. Pan ddaethant gyntaf i'r golwg ar eu taith yn ôl, tybiodd, er ei lawenydd, gan nad oedd ganddynt ddim yn eu dwylo, eu bod wedi methu cael gwisg iddo, ond wedi iddynt ddod ato, gwelodd fod un ohonynt yn cario y wisg amdano, a gwaith ychydig o funudau oedd ei thynnu.

Y gorchwyl nesaf oedd rhyddhau Hywel, ac O! deimlad hyfryd pan y cafodd sefyll yn syth unwaith eto, ac edrych ar y rhaffau yn disgyn y naill ar ôl y llall wrth ei draed.

"Ond," meddai, pan estynwyd y wisg iddo, "mae arnaf ofn ei rhwygo gan ei bod gymaint yn rhy fach i mi."

Ac ebe'r arweinydd,—"Na, y mae y wisg yma yn wisg gywrain; fe ddeil i ymestyn nes bod yn ddigon mawr i un gymaint ddwywaith â thi."

A thra yr oedd Hywel yn ei gwisgo, gwelodd fod yr arweinydd, am y tro hwnnw, beth bynnag, yn dweyd eithaf gwir. Wedi ond ychydig o drafferth yr oedd wedi ei wisgo yn hollol fel y Tylwyth Chwim, a hwythau yn sefyll o'i gwmpas nid i'w edmygu ef, ond i edmygu pertrwydd eu dyfais eu hunain, barodd iddynt ei droi i liw eu Tylwyth.