II. Colli'r Cadwyni
Yn ddioed fel pe'n falch o'r cyfle i ddweyd ei helynt, y mae Caradog yn dechreu adrodd yn fanwl wrtho ei neges yn y coed. Gynted y tewodd, dywed Hywel ei helynt yntau, a'r ddau fel ei gilydd yn erfyn am gynorthwy i gael eu dymuniad gan Dylwyth y Coed. Caradog yn dymuno cael ei arwain yn ddioed at y coed helyg, a Hywel yr un mor daer am gael mynd dros y gamfa.
Bu'r Tylwyth am ysbaid heb eu hateb gan sefyll o'u blaen, ac edrych i lawr fel pe mewn dwfn fyfyrdod. Yna cododd ei ben yn sydyn, ac meddai,—
"Mae'n amhosibl i mi eich cynorthwyo fy hunan. 'Rwyf ar fy ffordd i gyfarfod fy mrawd. Mae'n aros am danaf mewn coeden onen ymhell oddi yma. Mae ganddo gyfrinach bwysig i'w hysbysu i mi, ac y mae wedi fy rhybuddio i fynd ato ar frys. Ond ar fy nhaith ato byddaf yn siwr o gyfarfod rhai o'r Tylwyth Teg, a gofynnaf iddynt ddod i'ch helpu. Arhoswch yn y fan hyn, a pheidiwch symud oddi yma. Ond y mae'n rhaid i chwi gysgu,—ni ddaw y Tylwyth Teg atoch os byddwch yn effro."
"Os byddwn ni yn cysgu," ebai Caradog, "sut y caiff y Tylwyth Teg wybod beth sydd arnom eisiau?"
"Gwnaf fi eu hysbysu o hynny. Dwedaf wrthynt fod un bachgen eisiau ei ddwyn at y coed helyg, a'r llall eisiau mynd dros y gamfa."
Ac ebai Hywel,—
"Ie, ond pwy fydd yma i ddweyd wrth y Tylwyth Teg mai Caradog sydd yn chwilio am wiail a finnau yn chwilio am y gamfa?"
"Gofalaf am hynny hefyd," ebai Tylwyth y Coed. A thynnodd o'i fynwes ddwy gadwen hir o rawn cochion, ac meddai,—
"Plygwch eich pennau."
Ac wedi iddynt ufuddhau, rhoddodd un gadwen am wddf Hywel, a'r gadwen arall am wddf Caradog, gan ddweyd wrth Hywel,—
"Dyma i chwi gadwen o rawn crwn."
Ac wrth Caradog,—
"Dyma i chwithau gadwen o rawn hir-grwn. Yna bydd y Tylwyth Teg yn gwybod fod y bachgen sydd yn gwisgo y grawn crwn eisiau mynd dros y gamfa, a'r bachgen sydd yn gwisgo y grawn hir-grwn yn dymuno cael mynd at y coed helyg."