Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dros y Gamfa.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Diolchodd y bachgen iddo am y ddwy gadwen ac am ei barod-rwydd i'w helpu. Ac ebai yntau gan ostwng ei lais,—

"Mae'n dda gen i gael eich helpu. Ond wedi i mi fynd, cymerwch ofal na wnewch chwi ddeyd yr un gair o'ch hanes wrth y Tylwyth Chwim, os daw un neu ragor ohonynt atoch cyn i chwi gysgu a chymell eich helpu. Peidiwch a gwrando arnynt na'u dilyn, dyma fi yn eich rhybuddio mewn pryd. Os gwnewch, maent yn siwr o'ch camarwain, dyna eu gwaith."

"Y Tylwyth Chwim," ebai y bechgyn yn syn gyda'i gilydd, "pwy yw y rheiny?"

"Tylwyth sy'n byw ar derfyn y goedwig yma, a phob amser yn chwilio am gyfle i aflonyddu ar y Tylwyth Teg a fy nhylwyth innau. Maent o'r un maint a mi, ac y mae eu gwisg yn debig ond fod eu lliw yn goch. Os gwelwch hwy yn nesu cauwch eich llygaid a chymerwch arnoch eich bod yn cysgu yn drwm. Peidiwch a gadael i gywreinrwydd eich cadw'n effro a meddwl y gallwch eu troi draw pan y mynoch. Maent yn gyfrwys iawn ac anaml y gwelwch lai na phedwar ohonynt gyda'i gilydd. Os gwelwch un wrtho ei hunan, gallwch fod yn sicr ei fod wedi troseddu ac yn cael ei gosbi. Dyna eu cosb am drosedd bob amser. Rhaid i'r sawl fydd wedi troseddu grwydro wrtho ei hunan hyd nes y gall gyflawni rhyw weithred fydd yn ennill edmygedd a chymeradwyaeth y gweddill o'r Tylwyth. Ond mae'n rhaid i mi fynd, bydd fy mrawd yn blino aros am danaf."

A ffwrdd ag ef gyda'r fath gyflymder nes yr oedd yn llwyr o'r golwg cyn i'r bechgyn gael hamdden i ddweyd gymaint ag un gair ymhellach wrtho.

"Wel, dyna greadur bach rhyfedd," ebai Caradog, "y rhyfedda welais i erioed."

"A finna hefyd," ebai Hywel. "Onid oedd ganddo lais peraidd?"

"Oedd, a gwisg brydferth. Mae'n dda gen i mod i wedi methu dod o hyd i'r coed helyg, er mwyn cael ei gyfarfod."

"Mae'n dda gen inna mod i wedi colli y ffordd. Ond pwy fasa'n meddwl fod gan greadur bach fel yna elynion? Gobeithio na welwn ni mo'r Tylwyth Chwim."

"Ie'n wir. Mae'n rhaid eu bod yn dylwyth cas iawn i boeni y Tylwyth Teg."

"Onid yw yn resyn fod yn rhaid i ni gysgu ac na chawn weld y Tylwyth Teg?"

"Ydyw, ond gan na ddeuant atom yn effro, gwell i ni wneud hynny heb ymdroi, rhag ofn eu bod yn nes atom nag ydym yn feddwl. 'Rwyf fi am orwedd wrth fôn y goeden yma."