Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

merch i Morgan Evan neu Bevan, o Gelligaled, yn Sir Forganwg. Cafodd bump o blant-tri mab, a dwy ferch. Un o'r merched a briododd â'r Parch. Hugh Jones, i ba un, fel y dywedasom yn barod, y rhoddodd ei dad yng nghyfraith Langammarch i fyny; a'r hwn wedi hyny a'i newidiodd am ficeriaeth Llywel. Mab i'r Parch. Hugh Jones, ac ŵyr i'r Ficer, oedd Theophilus Jones, Yswain, yr hynafiaethydd, awdwr "Hanes Sir Frycheiniog," yr hwn a dreuliodd lawer o'i faboed gyda'i dadcu.

Wrth bob hanes, yr oedd Ficer Llangammarch yn ei ddydd a'i dymmor yn enwog am y rhinweddau sydd yn gwneyd dyn yn anwyl i'w gymmydogion a'i gyfoedion, yn gystal ag am ei ddysg a'i ddoniau. Yr oedd yn hynod, mae yn debyg, am ei garedigrwydd cyffredinol; ac mewn diniweidrwydd a symlder diddichell yr oedd yn berffaith blentyn. Arian ni phrisiai fawr. Ei drysorau penaf of oedd ei lyfrau, gyda pha rai treuliai lawer iawn o'i amser.

Nid yw pawb, ond odid, hyd yn oed o'r rhai sydd wedi derbyn llesâd oddi wrth Ffynnon Llanwrtyd, yn gwybod mai Mr. Theophilus Evans fu gyntaf yn foddion i wneyd rhinweddau da'r dwr yn hysbys i'r wlad. Ond felly bu. Mae yn debyg fod Mr Evans, nid hir ar ol ymsefydlu yn Sir Frycheiniog yn y flwyddyn 1732, yn wir-yn wael iawn iawn gan y scyrfi, yr hwn oedd wedi gwreiddio yn rymus yn ei gyfansoddiad. Yn y cyflwr hwn clywodd yn ddamweiniol am ryw ffynnon wenwynllyd, fel y tybid pryd hyny, yng nghwm Llanwrtyd. O ran cywreinrwydd, ac mewn rhyw obaith am gael gwellâd, cyrchodd goreu gallai tua'r fan. Cyrhaeddodd y Ffynnon Ddrewllyd, fel y gelwid hi, sawr pa un oedd yn ei anerch o hirbell; ac wedi sefyllan yn hir uwch