o'r naill ran i Theophilus, John Evans, a fu'n Athraw yn nheulu y Parch. Philip Henry, tad Matthew Henry. Ganwyd Theophilus yn y flwyddyn 1694, y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Gwilym y Trydydd. Bydd yn dda i'r darllenydd ieuanc gyfio fod hyn yng nghylch naw mlynedd ar ol genedigaeth y Parch. Griffith Jones, Llanddowror; ac felly fod Person Llanddowror yn gydoeswr â'n hawdwr. Yr oeddynt, y mae yn ddigon tebyg, yn adnabyddus â'u gilydd, er nas gallwn ar hyn o dro roddi sicrwydd ar y pen hwn. Fe gofia'r cyfarwydd mewn hanesyddiaeth, mai dyma yr amser y pallodd amryw o esgobion Eglwys Loegr gymmeryd llw o ffyddlondeb i'r brenin, ac o herwydd hyny, collasant hwy, yng nghyd â llawer o offeiriadon, eu swyddi yn y Sefydliad. Yn y flwyddyn 1698, hefyd, y sefydlwyd y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol, yr hon a dalodd lawer o sylw i'r Dywysogaeth, ac ym mhlith aelodau cyntaf pa un yr ydym yn canfod amryw yn gyssylltedig â Chymru. Dyma yr amser, ynte, yr anadlodd Theophilus Evans gyntaf.
Wedi myned trwy y parotoad gofynol, urddwyd ef yn Ddiacon yn 1718, ac yn Offeiriad mewn llawn urddau, yn 1719, gan Esgob Ty Ddewi, ar yr amser hwnw. Ei guradiaeth gyntaf oedd Tir yr Abad, yng Nghantref Buallt, Brycheiniog, plwyf bach eithaf pellenig ac anadnabyddus. O Dir yr Abad, neu Llanddulais, fel hefyd y gelwir y lle, fe symmudodd i Lanlleonfel, plwyf yn agos i Langammarch. Yn 1728, rhoddodd Esgob Ty Ddewi iddo rectoriaeth fechan Llanynys, yr hon fu yn ei ddwylaw am ddeng mlynedd-hyd nes y cafodd Langammarch. Yn 1739, cafodd Eglwys Sant Dewi, Llanfaes, Aberhonddu. Rhoddodd Langammarch i fyny yn 1763, i'w fab yng nghyfraith, y Parch. Hugh Jones; ond daliodd Sant Dewi tra y bu byw. Cymhares bywyd Mr Evans oedd Alice,