Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bawb o honynt i amddiffyn eu gwlad a'u gwir ddled rhag estrongenedl. A rhanu ei gyfoeth a wnaeth efe i bawb o'r tywysogogion a gorchymmyn llosgi ei gorff, a rhoddi ei ludw mewn delw o efydd ar lun gwr, yn y porthladd, lle bai estrongenedl yn ceisio dyfod i dir, gan ddywedyd, mai diau oedd na ddeuent fyth tra y gwelent ei lun ef yno." Ond wedi marw Gwrthefyr, ni wnaeth y tywysogion megys yr archasai efe iddynt, ond ei gladdu ef yng Nghaerludd a wnaethant. Y fath oedd dewrder ac arial calon y brenin godidog hwn, fel megys y bu efe yn ffrewyll yn ystlysau'r Seison tra y bu efe byw, felly efe a chwennychai fod yn ddychryn iddynt hyd yn oed ar ol ei farw. Ond ebe'r bardd:

"Er heddwch nac er rhyfel,
Gwenynen farw ni chasgl fêl."

A glybuwyd son erioed am bobl mor wallgofus ac ynfyd ag a fu y Brytaniaid ar hyn o bryd? Canys Gwrtheyrn, yr hwn a ddifreiniasant rai blynyddoedd o'r blaen am ei ddiddarbodaeth yn bradychu ei wlad i ddwylaw estroniaid, a gas y llywodraeth yn ei law eto. Ac nid oedd Rhonwen yn ewyllysio ond dyfod hyny i ben; canys wedi ei sicrhau ef yn y freniniaeth, hi a anfonodd yn chwipyn genadon hyd yn Germani, i ysbysu i'w thad iddi hi yn ystrywgar ddigon wneyd pen ar Wrthefyr, a bod Gwrtheyrn, gwr ag oedd hoff ganddo genedl y Seison, wedi ei ddyrchafu i eistedd ar yr orseddfainc yn ei le. "Ha ha," ebe Hengist yno wrth ei wŷr, "y mae i ni obaith eto; oes." A hwy a'i hatebasant ef â gwên ddiflas, "Gobaith ansier iawn ydyw hyny; canys nyni a ddirmygasom ormod ar y Brytaniaid eisys, a phobl lewion ydynt hwythau wedi llidio." "Ffi! ffi!" ebe Hengist, 66 na lwfrhäed eich

calon, yr ŷm ni yn gyfrwysach na hwy; pan ballo nerth, ni a fedrwn gynllwyn." Ac yna, efe a gynnullodd yng nghylch pymtheg mil o wŷr arfog, heb law gwragedd a phlant, ac a hwyliodd drosodd i Frydain mor ebrwydd byth oedd bosibl; canys efe a wyddai mai "hawdd cymmod lle bai cariad:" y fath oedd ei hyder ar y brenin hannercall hwnw Gwrtheyrn. Ond pan welodd y Brytaniaid y fath lynges fawr (o gylch deugain o ysgraffau) yn hwylio parth ag atynt, sicrhau y porthladd a wnaethant fel nad allent dirio. Ac ar hyny y gosododd Hengist arwydd tangneddyf i siomi y Brytaniaid, ac a ddanfonodd genadon i fynegu i'r brenin, mai nid er molest