Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y byd yr hwyliodd efe i Frydain y waith hòno, â'r fath lu ganddo, ond i gynnorthwyo'r brenin i ennill ei goron, yr hon a gipiwyd yn anghyfiawn oddi wrtho; "Canys ni wyddem ni ddim amgen," ebe hwy, "onid oedd Gwrthefyr eto yn fyw, ac yn trawsfeddiannu y goron." "Teg iawn," ebe Gwrtheyrn, ac a ddiolchodd iddynt am eu cariad. "Boed gwiw gan eich mawrhydi gan hyny," ebe hwy, "i appwyntio rhyw ddiwrnod, fel y caffo Hengist ein harglwydd gael siarad wyneb yn wyneb â'ch breninol uchelder." "O ewyllys fy nghalon," ebe Gwrtheyrn. "Ond, O arglwydd frenin," ebe hwy eto, "fel yr ymddangoso yn eglur i'r byd ein bod ni yn heddychol ac ar feddwl da, deued pawb yn ddiarfog i'r lle gosodedig a welo eich mawrhydi chwi yn dda i'w benu arno. "Da y dywedwch," ebe Gwrtheyrn; "ac nyni a gyfarfyddwn ddydd calan Mai nesaf, yng ngwastadedd Caer Caradog."

Wedi i Hengist fel hyn ymgynhesu â'r brenin didoraeth (a "hawdd cynneu tân yn hen aelwyd"), yno ei ferch Rhonwen a ddaeth i ymweled ag ef, ac adrodd wrtho mor ddichellgar y bu hi i wenwyno Gwrthefyr. "Da merch i!" ebe Hengist, "wele merch dy dad yn llwyr wyt ti; mi a ddywedaf hynny am danat."

Hengist ar hyny a barodd alw yng nghyd ei farchogion; ac ar ol adrodd mor ystrywgar y darfu Rhonwen wenwyno Gwrthefyr Fendigaid, yna efe a ddywad wrthynt, ""Dydd calan Mai nesaf yr ym i gyfarfod â phendefigion y Brytaniaid dan rith i wneyd ammod o heddwch â hwy; ond yn wir ddiau ar fedr eu lladd bob mab gwraig, cystawcwn ag ydynt. Canys wedi i ni ladd y goreuon, e ddyd hyny gymmaint o fraw yn y gwerinos taiog, fel na bo galon yn neb i'n gwrthsefyll. Ond i ddwyn i ben hyn o orchwyl yn gyfrwys, dyged pawb o honoch gyllell awchlem ddaufiniog, megys cyllell cigydd, yn ei lawes; a phan ddywedwyf fi wrthych, "Nemet eour saxes' (h.y., Ymafled pawb yn ei gyllell'), Iladded pawb y nesaf ato. Wele gorchymmyn a gawsoch; ymddygwch fel gwŷr, ac nac arbeded eich llygaid. Ar y dydd appwyntiedig, cyfarfod a wnaethant; ac er chwaneg o argoelion cariad, Hengist a'u perswadiodd yn hawdd i eistedd Fritwn a Sais bob yn ail, blith draphlith o amgylch y byrddau. Ond wedi ciniawa a dechreu myned yn llawen, y cododd Hengist ar ei draed, ac a waeddodd, "Nemet cour saxes." yn ddiattreg ymaflyd a wnaeth pob un gyda'r gair yn ei gyllell,