Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ferch oeddwn," ebe hi, "i frenin Dyfed; fy nhad a'm rhoddes i yn fynaches yng Nghaerfyrddin; ac fel yr oeddwn yn cysgu ryw noswaith rhwng fy nghyfeillesau, mi a dybiwn yn fy hun fod rhyw was ieuanc tecaf yn y byd yn ymgydio â mi, eithr pan ddihunais, nid oedd yno namyn fi a'm cyfeillesau; a'r amser hwnw y beichiogais i, ac a ganwyd y mab rhacw: ac i'm cyffes i Dduw, ni bu i mi achos gwr ond hyny." A rhyfeddu a wnaeth y brenin yn fawr i glywed hyny," ac a archodd ddwyn Meugain ddewin ato, ac a ofynodd iddo, a allai hyny fod. "Gall, O frenin," eb efe, ac a draethodd ei resymau, y fath ag oeddent, i brofi hyny. [1] Y brenin ar hyny a ddywad wrth Myrddin, "Y mae yn rhaid i mi gael dy waed." "Pa les a wna fy ngwaed i mwy na gwaed dyn arall ?" ebe Myrddin. "Am ddywedyd o'm deuddeg prif-fardd y pair dy waed di i'r gwaith sefyll yn dragywydd," ebe'r brenin. A Myrddin yno a ofynodd i'r dewiniaid am yr achos ag oedd yn llestair ac yn rhwystro'r gwaith; a phryd nas gallasant roddi ateb iddo, efe a'u galwodd yn dwyllwyr a bradwyr celwyddog. "Yr achos na saif y gwaith," eb efe, "yw, am fod llynclyn dan wadn yr adeilad." A phan wrth ei arch ef, y cloddiwyd y ddaiar oddi tanodd, fe gafwyd llynclyn yno yn ddilys ddigon, megys yr oedd efe yn barnu ym mlaen llaw. Y brenin ar hyny a anrhydeddodd Fyrddin, ond a barodd ladd y deuddeg prif—fardd, am eu bod yn dwyllwyr ac yn cymmeryd arnynt y peth ni wyddent. Y mae eu beddau i'w gweled yno hyd heddyw, yn adnabyddus wrth enw Beddau'r Dewiniaid.

Gwrtheyrn a symmudodd oddi yno i Ddeheubarth, i lan Teifi; ac mewn lle anial yng nghanol creigydd a mynydd-dir yr adeiladodd fath o gastell, yr hwn yn ddiau oedd y pryd hwnw mewn lle anghyfannedd ddigon, ym mhell allan o glybod a golwg y byd. Ond nid er dyben crefyddol y dewisodd efe fyned fel hyn ar encil; o blegid efe, dyn diras ag oedd, megys Ahab yntef, y gwaethaf o freninoedd Israel, "a ymwerthodd i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd." (1 Bren. xxi: 20.) Heb law ei holl ffieidd-dra arall, efe a halogodd ei ferch ei hun, [2] o'r hon y ganwyd iddo fab. Ond ni adawodd Duw mo'r fath ddireidi ysgeler yn hir,

  1. Merlinus ipse natus est in Cambria, non ex incubo demone, sed ex furtivâ venere cujusdam Romani consulis cum virgine vestali. Poweli annot. in Girald. Itiner. Cambriæ. c. 8. p. 207.
  2. Vide Spelm. Concil. Britan. p. 49, et Uss. Primord. p. 386.