Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nes ymweled ag ef mewn barn; canys fel y gwlawiodd yr Arglwydd dân a brwmstan ar Sodom a Gomorrah, am eu llosgach 'u haflendid (Gen. xix.), felly yma y cafododd eirias dân wybrenol, yr hwn a ysodd yr adeilad, a phawb o'i fewn i ulw. A'r man a elwir hyd heddyw, Craig Wrtheyrn; o gylch hanner y ffordd rhwng Llanbedr Pont Stephan a Chastell Newydd yn Emlyn, ar lan Teifi, o fewn rhandir Caerfyrddin. Yn y flwyddyn o oedran Crist 480 y bu hyny.

Yn y cyfamser yr oedd y Seison hwy yn ddygn ormesol yn creuloni yng Nghaint a'r wlad o amgylch. Y pendefigion, y cyfoethogion, yr uchelwyr, a ddienyddiwyd bob mab gwraig yn y parthau hyn; ond y cyffredin a arbedwyd i fod yn gaethweision, megys cynnifer asyn llwythog, i ddwyn beichiau. Yr oedd hyn yn ddilys ddigon yn fyd caled, ac yn fywyd chwerw eu palasau, eu gerddi, eu perllanoedd, a'u gweirgloddiau, ym meddiant barbariaid annhrugarog a mwrddwyr! —y perchenogion yn gorwedd yn gelaneddau ar wyneb y maes, yn borthiant i eryrod a chigfrain! y cyffredin yn gaethweision i baganiaid ysgeler, plant y felltith, yn addoli delwau! Ond eto, y mae yn weddus i ni addef, mai pobl ddrwg fucheddol oedd y Brytaniaid hwythau—pobl yn wir wedi ymroddi i aflendid, anwiredd, a thywallt gwaed gwirion: am hyny yr Arglwydd a'u purodd hwy mewn pair cystudd, ac a'u gwerthodd hwy i law eu gelynion. "Os rhodio a wnewch yn y gwrthwyneb i mi," ebe Duw wrth yr Israeliaid gynt, "yna y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau; a dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddïal fy nghyfammod; a phan ymgasgloch i'ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i'ch mysg, a chwi a roddir yn llaw y gelyn." (Lef. xxvi. 23, 24.) Pechod yr Israeliaid hefyd oedd godineb ac ymlenwi yn nyddiau hawddfyd. "Oeddent fel meirch porthiannus y boreu; gweryrent bob un ar wraig ei gymmydog." (Jer. v. 8.) "Ond pan laddai efe hwy," h.y., pan ymwelai yr Arglwydd mewn barn â hwynt, "hwy a'i ceisient ef, ac a ddychwelent; cofient hefyd mai Duw oedd eu craig, ac mai y Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd." (Salm lxxviii. 34.)

Yr un fath bobl oedd y Brytaniaid hwythau: rhai yn ymgeisio â Duw mewn cyfyngdra, ac yn ei wrthod mewn helaethrwydd. Ac felly ar hyn o bryd, tra yr oedd y Seison trwy frad a chreulonder wedi trawsfeddiannu rhan fawr o Loegr, gweddillion y Brytaniaid a ddychwelasant at yr Arglwydd eu