Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Duw â'u holl galon ac â'u holl egni. [1] Emrys Benaur[2] oedd yn awr eu brenin, yr hwn a fu ben capten y llu yn amser Gwrthefyr Fendigaid, megys y soniwyd o'r blaen; a chymmaint oedd ei glod wedi eangu dros yr holl deyrnas, fel prin yr oedd wr o ugain i hanner cant oed, oni chwennychai ddwyn arfau dano. A gwŷr Gwynedd a Deheudir hefyd ar hyn o bryd a ddaethant yn gymhorth cyfamserol idd eu brodyr yn Lloegr; ac, yn wir, achos da pa ham; canys fe rydd pob un fenthyg ei law i ddiffodd ty ar dân; a phob un a ymgyfyd ei arf yn ei law i daro ci cynddeiriog yn ei dalcen. Felly, a hwy yn awr yn llu cadarn, a'u hymddiried yn yr Arglwydd, myned a wnaethant yn uniongyrch, a danfon gwŷs at y gelynion i ymadael o Frydain; neu od oedd calon ynddynt i ymladd, deuent i'r maes, ac ymladdent yn deg, ac nid fel bradwyr yn cynllwyn am waed dan rith cyfeillion. Hengist ar hyny a wrychiodd (canys yr oedd yr hen gadnaw yn fyw byth, ac yn awr o gylch saith a thrigain oed); ac ar ol ymgynghori â'i frawd Hors, ac ereill o'i gapteniaid, efe a atebodd i'r pen rhingyll a anfonasai Emrys ato, fod ganddo ef "gystal hawl yn y tir a oresgynasai efe drwy nerth arfau, a'r goreu o'r Brytaniaid. Seren bren am eu bygwl."

Ar hyny, ryw bryd ym mis Mai, yn y flwyddyn o oedran Crist, 484, y bu ymladdfa greulawn rhwng y ddwy genedl; y naill yn ymwroli er gyru estron—genedl, bradwyr a mwrddwyr, allan o'u gwlad, a'r llall yn ffyrnigo fel ellyllon, er cadw craff yn eu trawsfeddiant anghyfiawn. Ar ol cwympo cannoedd o bob parth, yn enwedig o blaid y Seison, dynesäu a wnaethant yn dra llidiog i ymladd law—law; a chethin oedd yr olwg i weled rhai wedi eu hollti yn eu canol, rhai â'u hymysgaroedd allan, rhai yn fyr o fraich, ac ereill yn fyr o goes. Hors a wanwyd yn ei wddf, a Hengist a ddaliwyd yn garcharor, a'r lleill, ar hyny,, a ffoisant, ond y rhan fwyaf yn archolledig a dart yn eu tu ol. Y sawdwyr yno a lusgasant Hengist gerfydd ei farf, tua phabell y brenin; a phan oedd dadl yn eu mysg yng nghylch pa beth a wneid o hono, Dyfrig, Archesgob Caerlleon ar Wysg, a gododd ar ei draed, ac a ddywad, "Petai bob un o honoch chwi am ei ryddhau ef, myfi, ïe myfi, ag wyf yn esgob, a'i drylliwn ef yn chwilfriw; canys mi a ganlynwn esampl y prophwyd Samuel, yr hwn, pan oedd Agag, Brenin Amalec,

  1. Innumeris onerantes æthera votis. Gild. p. 22 b.
  2. Y rhan fwyaf a'u galwant ef Emrys Wledig.