Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei law, a ddywedodd, 'Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ym mysg gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag ger bron yr Arglwydd yn Gilgal.' (1 Sam. xv. 33.) Gwnewch chwithau, anwyl wŷr, eb efe, "yr un ffunud i Hengist, yr hwn sydd megys ail Agag." Ac ar hyny, Eidiol, Iarll Caerloew, a ruthrodd arno, ac a'i lladdodd. Gyda bod y cleddyf yn ei boten, yno chwi a welech yr holl lu yn gwasgaru rhai yma, rhai acw, i geisio bob un ei gareg i daflu arno; a chyn nosi, yr oedd yno gryn garn ar ei ben, megys yr oeddid yn arferol o wneuthur â drwg weithredwyr, y rhai, oddi yma a gyfenwir yn "garn ladron." [1]

Emrys Benaur oedd yn awr yn eistedd yn ddiogel ar ei orseddfainc; a chyn gwneuthur un peth arall (nas adgyweirio ty na dinas), efe a barodd dalu diolch cyffredinol i Dduw ym mhob Eglwys blwyf a chadeiriol o fewn y deyrnas, am deilyngu o hono adael ei fendith i gydgerdded â'u harfau er darostwng y gelynion. Ac yn ebrwydd, y gweddillion o'r Seison a adawyd yn fyw a ymostyngasant ger ei fron, â lludw ar eu penau, a chebystrau am eu gyddfau, yn taer ymbil ar fod yn wiw gan y brenin i ganiatäu ond eu hoedl yn unig iddynt. Y brenin yno a ymgynghorodd â'i benaethiaid; a barn Dyfrig, yr archesgob, oedd hyn: "Y Gibeoniaid," eb efe, "a geisiasant ammodau heddwch gan yr Israeliaid, er nad oedd hyny ond mewn twyll, ac a'i cawsant. Ac a fyddwn ni, Gristionogion, yn greulonach nag Iuddewon, i gau allan y Seison oddi wrth drugaredd? Y mae'r deyrnas yn eang ddigon; y mae llawer o dir eto yn anghyfannedd; gadewch iddynt drigo yn y mynydd—dir a'r diffaethwch, fel y bônt yn weision yn dragywydd i ni." Y brenin, ar hyny, a ganiataodd eu hoedl iddynt, ar eu gwaith yn cymmeryd llw o ufudd—dod i goron Loegr, ac na ddygent ddim arfau fyth rhag llaw yn erbyn y Brytaniaid.

Chwi a glywsoch eisys fod i Wrtheyrn fab a elwid Pascen, yr hwn, pan goronwyd Emrys Benaur yn frenin, a aeth eilwaith yn llidiog i Sermania, gwlad y Seison, i'w cymhell drosodd i Frydain i ennill y deyrnas oddi ar Emrys. Ac ar ol iddo, drwy weniaith ac addewidion mawr, gynnull ato lu mawr o wŷr arfog, efe a hwyliodd gyda hwy, mewn pymtheg llong, ac a diriodd yn ddiangol yn Isgoed Celyddon, a elwir heddyw

  1. Hæc narratio decerpta est partim ex Hist. Brit. Galfridi, lib. 8: c. 5, 9, 7, partim ex variis. MSS. N.