Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Yma y gorwedd Arthur, brenin enwog y Brytaniaid, yn Ynys Afallon."[1] Wrth rai o bennillion yr hen feirdd y daeth y goleuni cyntaf yng nghylch y man a'r lle y claddwyd ef. Defnydd ei ysrîn ef oedd derwen gau, ac yn gorwedd mewn naw troedfedd o ddyfnder daiar.

Yr oedd gan Arthur amryw lysoedd heb law ei ben palas yn Llundain: ambell waith yng Nghaer y Gamlas, dinas hyfryd gynt yng Ngwlad yr Haf; ambell waith mewn lle a elwid y Gelli Wyg, yng Ngherniw; ac yn fynych yng Nghaerlleon ar Wysg, yr hon oedd gynt y drydedd ddinas o ran tegwch a maint drwy yr holl deyrnas, ac yn eisteddfa archesgobaeth.

Ac efe yn wr call i ragachub cynhen ym mysg ei farchogion yng nghylch y lle uchaf ar y bwrdd, dywedir mai efe oedd y cyntaf a ddyfeisiodd y ford gron, fel y gallai pawb eistedd blith draphlith yn ddiwahân, heb ddim ymryson am oruchafiaeth. A'r rhai hyn yw y cynneddfau a ofynid gan bob un o farchogion Arthur, y rhai y caniateid iddynt eistedd ar ei fwrdd ei hun: 2

"1. Y dylai pob marchog gadw arfau da, ac yn barod at bob rhyw wasanaeth a osodid arno, ai ar fôr ai ar dir.

"2. Y dylai yn wastad wneyd ei oreu er darostwng pawb a fyddai yn gorthrymu ac yn treisio'r bobl o'u hiawn.

"3. Y dylai amddiffyn ac ymgoleddu gwragedd gweddwon rhag magl a niwed maleiswyr; edfryd plant a dreisid o'u heiddo at eu gwir feddiant; a maentumio'r grefydd Gristionogol yn wrol.

"4. Y dylai, hyd eithaf ei allu, gadw llonyddwch yn y deyrnas, a gyru ymaith y gelynion.

"5. Y dylai ychwanegu at bob gweithred glodfawr, tori lawr bob campau drwg, cynnorthwyo y gorthrymedig, dyrchafu braint yr Eglwys Gatholig, ac ymgoleddu pererinion.

"6. Y dylai gladdu y sawdwyr a fyddent yn gorwedd ar wyneb y maes heb feddrod, gwared y carcharorion a'r rhai a gaethiwid ar gam, a iachäu y rhai a glwyfid yn ymladd dros eu gwlad.

"7. Y dylai fod yn galonog i fentro ei hoedl mewn pob rhyw wasanaeth anrhydeddus, eto fod yn deg a chyfiawn. "8. Y dylai, wedi gwneuthur unrhyw weithred odidog, ys-

  1. Hic jacet sepultus inclitus Rex Arturius in insula Avallonia. Vid. Camd. p. 65. Ed. noviss. 2 Vid. Camb. Triumph. tom. 2, fol. 195.