Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

grifenu hanes am dani mewn coflyfr, er tragwyddol ogoniant i'w enw a'i gydfarchogion.

"9. Os dycer dim achwyniad i'r llys am dyngu anudon, neu orthrwm, yno y dylai'r marchog hwnw a appwyntiai'r brenin, amddiffyn y gwirion, a dwyn y drwg weithredwr i farn cyfraith.

"10. Os dygwyddai ddyfod un marchog o wlad ddyeithr i'r llys, ac yn chwennych dangos ei wroldeb, yna y dylai'r marchog a appwyntia'r brenin ymladd ag ef.

"11. Os rhyw bendefiges, gwraig weddw neu arall, a wnai ei chŵyn yn y llys ddarfod ei threisio hi, y dylai un, neu chwaneg o farchogion, os byddai rhaid, amddiffyn ei cham, a dial y sarhâd.

"12. Y dylai pob marchog ddysgu arglwyddi a phendefigion iefainc, i drin arfau yn gywrain, nid yn unig i ochelyd seguryd, ond hefyd i chwanegu anrhydedd eu swydd a'u gwroldeb."

Ni chas y Seison ddim meddiant, na'r deyrnas chwaith ddim llonyddwch parhäus, tra bu Arthur yn teyrnasu, ar ei fod efe, yn ddilys ddigon, cyn enwoced brenin a chyn enwoced rhyfelwr a'r a fu erioed yn y byd Cristionogol. Ond ar ol ei farwolaeth ef, yr hyn a ddygwyddodd yn y flwyddyn 543, tra yr oedd y fath luaws gwastadol o draw yn heidio arnom, gormes y Seison a eangodd fwy—fwy; megys cornant gwyllt, ar waith cafod yn pistyllio i lawr, sy'n rhuthro dros y dibyn, ac yn gorchguddio'r dyffryn isod â llaid, a graian, a cheryg. Ac eto ni chawsant ddim cwbl feddiant yn holl Loegr hyd yn amser Cadwaladr, o gylch y flwyddyn 664; ym mha amser y bu marwolaeth fawr iawn yn Lloegr, a elwid "pla Ꭹ fall felen." Ac o achos y pla yr ymadawodd Cadwaladr a rhan fwyaf o'r Brytaniaid tan ei lywodraeth ef, ac a aethant at eu cydwladwyr i Lydaw, yn nheyrnas Ffrainc. Dyma'r pryd y darfu i'r Seison gael cwbl feddiant yn Lloegr; ond nid yn wobr o'u gwroldeb, ond o achos cynhen ac ymraniad yr hen Frytaniaid; ac am y mynai Duw eu cospi am eu holl ffieidddra, a'u diystyrwch ar ei sanctaidd gyfreithiau. Y Brytaniaid yng Nghymru a arosasant yn eu gwlad; hwynt—hwy o Loegr (lawer iawn o honynt), a aethant gyda Chadwaladr eu brenin i Lydaw: ond ym mhen amser, sef ar ol attal y pla ym Mrydain, dychwelyd adref a wnaethant,[1] a phreswylio yn

  1. Powell's Chron. p. 8.