Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byd gweledig, gan mai drwy yd, a ffrwythau'r ddaiar, a dwfr yr afonydd, y mae ein bywyd yn cael ei gynnal, megys y mae Duw wedi eu hordeinio at hyny. (2.) Barn ereill yw fod yr hen Gymry, a hwy eto yn Asia, ar eu hymdaith o Dŵr Babel, yn canfod mynydd Sinai yn crynu ac yn fflamio hyd entrych awyr, ar waith Duw yn rhoddi y deg gorchymmyn i'r Iuddewon; ac o achos hyny, anrhydeddent bob bryn uchel fyth wedyn; a'u bod yn cyfrif afonydd yn sanctaidd, yn ol traws amcan amryw genedloedd ereill, y rhai oeddent yn barnu fod rhyw anian o'r Duwdod yn gymmysg â'r dwfr.[1] Tuag at am eu gwaith yn addoli delwau, pan yr ystyrio neb mor wybodus dynion oedd eu hofferiaid (fel y dangosaf yn y man), y mae yn beth rhyfedd yn wir fod cymmaint o ddygn anwybodaeth ym mysg y bobl cyffredin. Ond fe ellir tybied mai nid ar y ddelw ei hun y gweddïent, ond y gau dduwiau, y rhai oedd cynnifer delw yn eu harwyddocäu.[2] Canys y mae Iul Caisar, yr hwn a ysgrifenodd cyn geni Crist, yn adrodd eu bod yn cydnabod ac yn addoli yr un duwiau, eu bod o'r un farn am eu hamryw awdurdod a'u swyddau, â phobl Rhufain; a chanddynt amryw ddelwau er anrhydedd iddynt, megys hwythau o dir Groeg a'r Ital.

Yn awr, y gau dduwiau y rhai yr oedd yr hen Frytaniaid, yn gystal a'r rhan fwyaf o genedloedd Ewrop a rhan o Asia, yn eu haddoli, a elwid Sadwrn, Iupiter, Mars, Apollo, yn enwedig Mercher, a bagad ereill. Ac enwau rhai o'u duwiesau oedd Rhea, Iuno, a Fenus. Nid oedd y duwiau hyn ddim amgen na dynion marwol, o'r un anwydau â dynion ereill; ond am eu bod yn wŷr enwog yn eu cenedlaeth, eu hwyrion a’u tras, ar ol eu dyddiau, a berswadient y bobl cyffredin mai duwiau oeddent. Ac yn gymmaint a bod y fath gred er mantais i'r gwŷr mawr, eu cyd-dylwyth, tuag at gadw eu hawdurdod, sef fod y cyffredin yn coelio mai duwiau oedd eu hen deidiau; o blegid hyny, meddaf, y gosodwyd cyfraith i amddiffyn y fath opiniwn gwyrgam, rhag y bai neb feiddio ddywedyd yn erbyn hyny. Y fath yw llygredigaeth natur dyn rhyfygus! Ac yno fel y greddfai yr opiniwn cyfeiliornus hwn yn ddyfnach eto ym meddyliau y werin bobl, galwyd y

  1. Camd. p. 555. Ed. noviss.
  2. Deum maximè Mercurium colunt; hujus sunt plurima simulacra. Post hunc Apollinem, et Martem, et Jovem, et Minervam. De his eandem fore quam reliquæ gentes, habent opinionem. Cæs. 1. 6, p. 107.