Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn nhrefn eu haddoliad; canys pan y bônt wedi blino yn addoli eu delw, yna y dechreuant ddifenwi a melltithio. "Tydi gorgi cas," ebe hwy, "ai dyma fel y cawn ni ein trin genyt? Nad ystyriech, y lluman, ym mha fath deml wych y dodasom di; mor hardd y gwisgasom di ag aur a meini gwerthfawr; a maint o aberthau a laddasom i ti? A pha gydnabod sydd genyt ti, yr ysgerbwd brwnt! am hyn oll ?" Yna hwy a rwymant y ddelw â rhaffau, ac a'i dragiant hi hyd yr heolydd, gogyfer â'i chospi am ei bod yn peidio gwrando arnynt. Ond os o ddamwain y daw iddynt yr hyn y maent yn ofyn, yna hwy a ddygant yr eilun drachefn idd ei hen le, wedi ei olchi yn lân. Yno hwy a ymgrymant yn ostyngedig iawn o'i flaen, gan ddywedyd, "Gwir iawn yr oeddem yn ddigon byrbwyll, pan y gwnelem y fath ammharch i chwi; ond oeddech chwithau ar fai i fod mor bengaled? Oni fuasai yn well i chwi fod yn fwyn ar y cyntaf, na dyoddef y fath anfri?"[1]

Mewn talaeth arall o China, o flaen myned yng nghylch unrhyw weithred bwysfawr, yr offeiriad a orwedd ar ei wyneb o flaen y ddelw, ar y llawr gwastad, gan ymestyn ei draed a'i ddwylaw, ac un arall uwch ei ben a fydd yn darllen mewn llyfr, tra fo y rhai o amgylch yn canu clych, ac yn ystwrio. Yn y cyfamser y mae ysbryd yn perchenogi yr hwn sydd yn gorwedd, ac allan o law efe a gyfyd ag edrychiad salw a chethin, ac a rydd ateb, megys dewin, i bob peth a ofynir iddo. "Er ynfyted yw y rhai hyn," ebe gwr dysgedig a duwiol, "fe ellir gweled rhai dan enw Cristionogion mor nawswyllt a direswm a hwythau,—y Crynwyr; canys y maent hwythau yn dechreu yn hirllaes ac yn oerlyd, ac a syrthiant ond odid mewn llewyg: ond wedi dadebru, hwy a floeddiant fel dynion allan o'u cof, gan ddadwrdd yn erchyll yn erbyn pob trefn a phrydferthwch, a rheol a rheswm."[2]

Soniwn bellach yng nghylch delwaddoliaeth yr hen Frytaniaid, cyn amser Crist, y rhai nid oeddent well eu hamcan na chenedloedd ereill; canys gwrthddrych eu haddoliad, ym mysg pethau daiarol, oeddent fryniau uchel ac afonydd,[3] heb law delwau, gwaith eu dwylaw eu hun. Am ba ham yr addolent fynyddoedd ac afonydd, nis gwn i; oddi eithr (1.) eu bod yn credu fod rhyw ysbryd bywiol yn treiddio drwy y

  1. Leguat's Adventures, p. 208.
  2. Dr. More's Divin. Dial. N. 3, p. 217.
  3. Gild. p. 7.