Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond ti a ganfyddi, mewn cornel cul o'r fynwent, lech lwyd lyfn,* wedi ei chloddio, digon tebygol, o un o'r mynyddau cyfagos, wedi eu gosod ar y fan lle y gorwedd yr hen offeiriad, yr ysgolhaig, yr hynafiaethwr-awdwr "Drych y Prif Oesoedd," yng nghyd â'i ŵyr o'r un aidd, doniau, ac ysbryd ag ef ei hun, Theophilus Jones, o Aberhonddu, awdwr "Hanes Sir Frycheiniog." Heddwch i ysbrydoedd yr hen bererinion! Iechyd a llwyddiant i tithau, ddarllenydd.

Caerfyrddin, Calan Hydref, 1851.

Llanbedr, Calan Gauaf, 1863.

  • Dyma gopi o'r hyn a ddarllenir ar y gareg:—