Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGARAITH.

UN o'r cymmwynasau mwyaf gwasanaethgar, a gyflawnu, tuag at ddwyn ym mlaen yr ysbryd athrylithgar sydd yn awr yn cynhyrfu hiliogaeth y Cymry, ydyw adgyhoeddi argraffiadau rhad o'r cyfansoddiadau a fuont yn offerynau yn yr oesoedd blaenorol i drosglwyddo hyfrydwch yng nghyd â gwybodaeth i feddyliau ein hynafiaid.

Ym mhlith y traethodau a ysgrifenwyd o ddeutu can mlynedd yn ol, "DRYCH Y PRIF OESOEDD" gyda phriodoldeb a gymmeradwyir yn fawr. Yr ysbryd, purdeb yr iaith, a'r tarawiadau gwir farddonol a geir ynddo ydynt yr un mor effeithiol i dynu sylw yr ieuanc fel yr hen, y dysgedig fel yr annysgedig. Ni ddylai y darllenydd ddysgwyl gwybodaeth o amgylchiadau y cyn oesoedd yng nghyd ag hanesyddiaeth ein cenedl mewn un modd mor berffaith ag yr ydym yn ei gael drwy oleuni y dydd presennol. Ni ddylai hefyd dderbyn fel ffeithiau diammheuol lawer o'r chwedlau digrif a adroddir gyda'r fath fedrusrwydd gan y Parch. Theophilus Evans.

Ond er hyny, fe geir y gwaith yn fuddiol ac yn ddyddorawl dros ben, a thuedd ynddo i arwain y darllenydd ieuanc i chwilio am gyfryngau ereill mwy cysson a chywir tuag at goethi ei feddwl ac eangu ei wybodaeth; am hyn y gobeithiaf y bydd i lafur Mr Spurrell gael ei goroni â llwyddiant yn yr argraffiad newydd a ddygir o flaen y cyhoedd: y mae y llyfr yn rhad, ei argraffiad yn rhagorol, a theilynga ledaeniad ehelaeth.

JOHN WILLIAMS,

Archddiagon Ceredigion.

Hydref, 1851.