Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Amlwg i'n golwg ni a'i gwelwn—fyth
Heb ei fath addefwn;
Gorchestol gwir a chwestiwn,
Rhagorol haeddol yw hwn.

Traethawd clau eurawd clir—sy i goffäu
Holl gyffion llin gywir,
Y Brytaniaid brwd henwir,
Eu haraith talaith a'i tir.

Dangosir profir y pryd—arbenig
Derbyniai'n gwlad hefyd
Ffydd Crist ddi—drist dda edryd,
A'i ffyniant, clau lwyddiant clyd.

Holl ddamwain Brydain, waith brau—iawn acen,
Er naw cant o flwyddau,
A dangos gloew achos glau,
Hwyl antur eu helyntiau.

Dos rhagod, cei glod y gwledydd a'u mawl
Am elwog waith beunydd;
Ffyddlon d'amcanion cynnydd,
Gair mwy na pharch grym ein ffydd.




Englynion o waith Bardd arall.

LLYMA Ddrych haelwych hylwydd—cainfoddau
Cof eiriau cyfarwydd;
Drych i'r wlad yn ddiw'radwydd;
Drych enwog iawn rhywiog rhwydd.

Dengys trwy'n hynys ar hynt—hanesion
Hen oesoedd a helynt
Y gwŷr dewrion gwychion gynt,
Amyl oedd y mawl iddynt.

Edrychwn gwelwn yn gu—wir achau
Goruchel y Cymry:
A'u mwyth oll, a'u maith allu;
Cysurus lwyddiannus lu.

Edrych y dyn â Drych dwys—iawn erfai
Hen arfer yr eglwys;
Ei gwŷr llen cymhen cymhwys,
A'i llygion wŷr glewion glwys.

Crefydd dda ufydd ddi-ofer—hylaw
Hiliogaeth hen Gomer;
A'u cerddoriaeth berffaith ber,
A'u hymsawd yn eu hamser.

Brysia, Ddrych, hoew-wych ei hawl—iawn gamrau,
I Gymru'n egnïawl
Dy ber areith odieithol
Haeddai fyth hoew dda fawl.

—JENKIN THOMAS A'I CANT.