Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Boed holliach bellach, fe ballodd—gosteg,
Ac estyn ni allodd,
Aeth i ben a gorphenodd,
Tyrfyniad clymiad a'i clodd.

JENKIN THOMAS.




Englynion[1] o Fawl i'r Gwaith a'r Cyfieithydd.

Dy waith a'th araith euraid,—wr anwyl,
O ryw hen Frytaniaid,
Sydd fendith a blith o blaid
Bywyd dof bwyd y defaid.

Mae yma borfa burfras—gwir luniaeth
I'r gorlan, gair addas,
Llwyn i orwedd llawn o ras,
Cwm, le clyd, ar hyd gamlas.

Mae 'stor o ogor i'r gorlan—yma
Mae lluest mewn gwinllan;
Y geifr mall a ânt allan
At ysgall y fall i'r fan.

THEOPHILUS EVANS, VICAR LLANGAMMARCH.




Englynion i anerch y parchedig Ddysgawdwr, Mr. Theophilus Evans,
pen Cymreigydd Brydain Fawr.

DYMA Ddrych gwych dan go'—dilys,
Dylai fawr roeso;
Rhoed hil Frutus drefnus dro
Bur awch addas barch iddo.

Theophilus glws ei glod—er gwirio
I'r gorau sy'n gwybod,
Uwch na hwy achau a nod
Y Brytaniaid brwd hynod.

'Sgrifenydd hylwydd hy—llusern
Dra llesol i Gymru;
Oreu'i dasg er ein dysgu;
Mawr ei boen, myfyrio bu.

Cymreigydd ufydd anian—cyfieithydd
Cu ethol ei amcan;
Periglor pur rywioglan,
Da lywydd mewn dwy lan.


  1. Yn ol W. Rowlands (Llyfryddiaeth y Cymry, tudal. 329), camsynied oedd printio yr Englynion hyn o flaen Drych y Prif Oesoedd; gan mai gwaith Theophilus Evans ei hun ydynt i "Ymadrodd ynghylch Dychymygion Dynion yn addoliad Duw. Gan y Gwir Barchedig Dr. William King, Arglwydd Esgob Llundain Derry. Ac a gyfieithwyd gan Dafydd Llwyd Ficar Llandefath