Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Addysgu teulu pob talaeth—trwy lafur
Trodd lyfrau perffaith;
Nid oes yn trin y Frytaniaith
O Gymro yn wir gymhar i'w waith.

JOHN JONES LEWELYN, O LANFAIR YNG NGHAEREINION, A'I CANT.




Mawl i'r Llyfr a'r Awdur, Mr Theophilus Evans.

ARDDERCHOG enwog union—clyw d' anerch
Clau ddawnus amcanion
O Wynedd yn ddi-unon,
I'r Deheudir da hoew dôn.

O Arfon dirion dyrog—y tardda
At urdd wawr flodeuog,
Fawl min gân fel y mwyn gog,
Fraich anwyl i Frycheiniog.

[1]Theophilus iaith hofflawn
Oleu ras ail i Aaron
Fel Dafies[2] wiw flodeuyn
Goreu glwys gu eurog lin.

Peryglor Ifor Ifan—ail ydych,
Hael odiaeth berffeithlan,
Ac ieithydd yn gwau weithian,
Cymraeg lwys i'r Cymry glân.

Dosbarthu, rhanu yn rhwydd—hanesion
Hen oesoedd yn ebrwydd;
Gwr hylaw, gywir hylwydd,
Rhywiog lân ar we aeg lwydd.

Drych gwiwlan, dyddan i'n dydd—un ydyw,
Iawn adail waith crefydd;
Goludog iach i'n gwledydd,
Gwiw dw'ffel i gyd a'i ffydd.

Drych y Prif (a rhif ar hyd—yr) Oesoedd,
Aur eisoes o'r cynfyd;
Drych gwiw-lwys edrych golud,
Hynaws bwnc o hanes byd.

Llanddewi, heini, hynod—Llangammarch,
Llawn gymhwys fyfyrdod;
Dwy chwaer glir, da wych ar glod,
Hir einioes i'w lor hynod.

DAFYDD JONES, O DREFRIW, A'I CANT

  1. Proest gyfnewidiog.
  2. Dr Dafies a ysgrifenodd y Geirlyfr Cymraeg.